Treialon Nuremberg
| Delwedd:Defendants in the dock at nuremberg trials.jpg, Nuremberg Trials. Looking down on defendants dock, circa 1945-1946. - NARA - 540127.jpg | |
| Enghraifft o: | war crimes trial |
|---|---|
| Math | trial |
| Dechreuwyd | 20 Tachwedd 1945 |
| Daeth i ben | 1 Hydref 1946 |
| Olynwyd gan | subsequent Nuremberg trials |
| Lleoliad | Palace of Justice |
![]() | |
| Gwefan | http://museen.nuernberg.de/memorium-nuernberger-prozesse/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/05hdx |
| Thesawrws y BNCF | 29756 |
| Quora | Nuremberg-trials |
Treialon Nuremberg neu Brofion Nuremberg yw'r enw a ddefnyddir am nifer o achosion llys a gafodd eu dwyn gan lywodraethau yr Unol Daleithiau, yr Undeb Sofietaidd, y Deyrnas Unedig a Ffrainc yn erbyn arweinwyr y llywodraeth Natsiaidd yn yr Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Cynhaliwyd y profion yn ninas Nuremberg yn yr Almaen rhwng 1945 y 1949. Y prif brawf oedd yr un a ddechreuodd ar 20 Tachwedd 1945, yn erbyn y prif arweinwyr. Nid oedd y diffinyddion yn cynnwys yr arweinwyr oedd wedi eu lladd eu hunain i osgoi cael ei dal, megis Adolf Hitler ei hun, Heinrich Himmler, Joseph Goebbels ac eraill, ond rhoddwyd Martin Bormann ar ei brawf yn ei absenoldeb, gan nad oedd sicrwydd a oedd wedi ei ladd neu wedi dianc. Rhoddwyd 24 o bobl ar eu prawf yn yr achos hwn.

Y cyhuddiadau
[golygu | golygu cod]Roedd pedwar cyhuddiad, er na chyhuddwyd pob un o'r diffinyddion o bob un o'r pedwar:
Y cyhuddedig a'r dedfrydau
[golygu | golygu cod]| Enw | Swydd | Dedfryd |
|---|---|---|
| Martin Bormann | Olynydd Hess fel Ysgrifennydd y Blaid Natsiaidd | Marwolaeth (yn ei absenoldeb) |
| Hans Frank | Llywodraethwr Gwlad Pwyl | Marwolaeth |
| Wilhelm Frick | Gweinidog Cartref | Marwolaeth |
| Hermann Göring | Pennaeth y Luftwaffe ac arlywydd y Reichstag | Marwolaeth |
| Alfred Jodl | Pennaeth Gweithrediadau y Wehrmacht | Marwolaeth |
| Ernst Kaltenbrunner | Pennaeth yr RSHA a'r einsatzgruppen | Marwolaeth |
| Wilhelm Keitel | Pennaeth y Wehrmacht | Marwolaeth |
| Joachim von Ribbentrop | Gweinidog Tramor | Marwolaeth |
| Alfred Rosenberg | Ideolegydd hiliaeth | Marwolaeth |
| Fritz Sauckel | Pennaeth y rhaglen gweithwyr dan orfod | Marwolaeth |
| Arthur Seyss-Inquart | Llywodraethwy yr Iseldiroedd | Marwolaeth |
| Julius Streicher | Golygydd y cylchgrawn gwrth-semitig Der Stürmer | Marwolaeth |
| Walter Funk | Gweinidog Economaidd | Carchar am oes |
| Rudolf Hess | Dirprwy Hitler | Carchar am oes |
| Erich Raeder | Pennaeth y llynges | Carchar am oes |
| Albert Speer | Gweinidog Arfogaeth | 20 mlynedd |
| Baldur von Schirach | Pennaeth Ieuenctid Hitler | 20 mlynedd |
| Konstantin von Neurath | Llywodraethwr Bohemia a Morafia | 15 mlynedd |
| Karl Dönitz | Pennaeth y llynges, olynydd Hitler | 10 mlynedd |
| Hans Fritzsche | Dirprwy Joseph Goebbels yn y Weinyddiaeth Bropaganda | Dieuog |
| Franz von Papen | Is-ganghellor | Dieuog |
| Hjalmar Schacht | Cyn-bennaeth y Reichsbank | Dieuog |
| Gustav Krupp | Diwydiannydd | Dim yn gymwys i'r roi ar ei brawf |
| Robert Ley | Pennaeth y Corfflu Gwaith | Lladdodd ei hun yn ystod yr achos |
