Hermann Göring
| Hermann Göring | |
|---|---|
| Ganwyd | Hermann Wilhelm Göring 12 Ionawr 1893 Rosenheim |
| Bedyddiwyd | 8 Chwefror 1893 |
| Bu farw | 15 Hydref 1946 o gwenwyno gan syanid Nuremberg Court Prison, Nürnberg |
| Man preswyl | Reichstagspräsidentenpalais |
| Dinasyddiaeth | yr Almaen Natsïaidd, Ymerodraeth yr Almaen, Yr Almaen, Sweden |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, hedfanwr, casglwr celf, war criminal, swyddog yr awyrlu, swyddog milwrol, peilot awyren ymladd, gweinidog, Holocaust perpetrator |
| Swydd | aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany, Vice-Chancellor of Germany, Minister President of Prussia, Reichsstatthalter, Aelod Seneddol |
| Cyflogwr | |
| Taldra | 1.78 metr |
| Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol, Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
| Tad | Heinrich Ernst Göring |
| Mam | Franziska Tiefenbrunn |
| Priod | Carin Göring, Emmy Göring |
| Plant | Edda Göring |
| Gwobr/au | Pour le Mérite, Knight's Cross of the Iron Cross, Prif Ruban Urdd y Blodau Paulownia, Collar of the Imperial Order of the Red Arrows, Grand Cross of the Iron Cross, Bathodyn y Parti Aur, Blood Order, Prif Ruban Urdd y Wawr, Royal Order of the Sword, Knight Grand Cross of the Order of Saint Stephen of Hungary, Urdd y Cyfarchiad Sanctaidd, Marchog Uwch Groes Urdd y Seintiau Maurice a Lasarus, Knight grand cross of the order of the crown of Italy, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, knight of the Royal House Order of Hohenzollern, Order of the Zähringer Lion, Military Karl-Friedrich Merit Order, Iron Cross 2nd Class, Urdd Sant Steffan o Hwngari, Urdd y Dannebrog, Grand Cross of the Order of the Cross of Liberty, Danzig Cross 2nd Class, Danzig Cross 1st Class, Cross of Honour for Combatants, with Swords, Order of Michael the Brave, 3rd class with swords, Order of Michael the Brave, 2nd class, Order of Michael the Brave, 1st class, honorary citizen of Gdańsk, Order of Saints Cyril and Methodius Equal-to-apostles |
| llofnod | |
Un o brif arweinwyr y llywodraeth a'r blaid Natsïaidd yn yr Almaen oedd Hermann Wilhelm Göring, hefyd Goering (12 Ionawr 1893 – 15 Hydref 1946).
Ganed ef yn Rosenheim, Bafaria. Daeth i amlygrwydd fel awyrennwr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf; saethodd 22 o awyrennau'r gelyn i lawr, a dyfarnwyd y medal Pour le Mérite iddo.
Daeth yn ffigwr amlwg yn y Blaid Natsïaidd yn y cyfnod cyn iddi ddod i rym, ac wedi i Adolf Hitler ddod yn Ganghellor yr Almaen, daliai Göring nifer o swyddi pwysig. Yn eu plith, roedd yn bennaeth y Luftwaffe, llu awyr yr Almaen, ac ef oedd wedi ei nodi fel olynydd Hitler.
Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, ef oedd yr amlycaf o'r diffinyddion a roddwyd ar eu prawf yn Nhreialon Nuremberg. Cafwyd ef yn euog a'i ddedfrydu i farwolaeth, ond y noson cyn y diwrnod a benodwyd ar gyfer ei grogi, lladdodd ei hun trwy gymeryd gwenwyn.