Sambia
|  | |
| Gweriniaeth Sambia Icitungu ca Zambia (Bembaeg) | |
|  | |
| Arwyddair | Un Sambia, Un Genedl  | 
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad dirgaeedig, gwlad  | 
| Enwyd ar ôl | Afon Zambezi  | 
| Prifddinas | Lusaka  | 
| Poblogaeth | 19,610,769  | 
| Sefydlwyd | 24 Hydref 1964 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) | 
| Anthem | Saf a Chana am Sambia, yn Falch ac yn Rhydd  | 
| Pennaeth llywodraeth | Edgar Lungu  | 
| Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Lusaka  | 
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg  | 
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Canolbarth Affrica, De Affrica, Dwyrain Affrica  | 
| Arwynebedd | 752,618 ±1 km²  | 
| Yn ffinio gyda | Simbabwe, Tansanïa, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Malawi, Mosambîc, Namibia, Angola, Botswana  | 
| Cyfesurynnau | 14°S 28°E  | 
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | Cabinet Sambia  | 
| Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol  | 
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Sambia  | 
| Pennaeth y wladwriaeth | Hakainde Hichilema  | 
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Sambia  | 
| Pennaeth y Llywodraeth | Edgar Lungu  | 
|  | |
|  | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $29,784 million  | 
| Arian | Kwacha Sambia  | 
| Canran y diwaith | 13 ±1 canran  | 
| Cyfartaledd plant | 5.353  | 
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.565  | 
Gwlad tirgaeedig yn Affrica yw Gweriniaeth Sambia neu Sambia. Gwledydd cyfagos yw Namibia i’r gorllewin, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Tansanïa i'r gogledd, Malawi a Mosambic i'r dwyrain, ac Angola a Simbabwe i'r de. Mae hi'n annibynnol ers 1964.
Prifddinas Sambia yw Lusaka.
Gwladychwyd y rhanbarth gan Brydeinwyr yn y 19g i ddod yn ddwy brotectoriaeth, sef "Barotziland–North-Western Rhodesia" a "North-Eastern Rhodesia". Unwyd y rhain yn 1911 i ffurfio Gogledd Rhodesia. Am y rhan fwyaf o'r cyfnod hwn, roedd y wlad yn cael ei llywodraethu gan weinyddiaeth a benodwyd o Lundain gyda chyngor y British South Africa Company.
Daeth Sambia yn annibynnol ar y Deyrnas Unedig ar 24 Hydref 1964 , a daeth y prif weinidog Kenneth Kaunda ei harlywydd cyntaf. Daliodd plaid sosialaidd Kaunda (United National Independence Party, UNIP) rym o 1964 hyd 1991. O 1972 i 1991 roedd Sambia yn wladwriaeth un-blaid, gydag UNIP fel yr unig blaid wleidyddol gyfreithiol. Yn dilyn etholiad amlbleidiol yn 1991 olynwyd Kaunda gan Frederick Chiluba o’r Movement for Multi-Party Democracy (MMD) , ac ers hynny mae Sambia wedi bod yn wladwriaeth amlbleidiol ac wedi profi sawl trawsnewidiad heddychlon o rym.
 
	
