Mosambîc
![]() | |
![]() | |
Arwyddair | Dewch i'r fan lle cychwynwyd y cyfan ![]() |
---|---|
Math | gweriniaeth, gwladwriaeth sofran ![]() |
Enwyd ar ôl | Ynys Mozambique ![]() |
Prifddinas | Maputo ![]() |
Poblogaeth | 29,668,834 ![]() |
Sefydlwyd | 25 Mehefin 1975 (Annibyniaeth oddi wrth Portiwgal) 1977–1992 (Rhyfel Cartref) |
Anthem | Pátria Amada ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Maria Benvida Levy ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, Africa/Maputo ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Portiwgaleg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica, Gwledydd Affricanaidd sy'n siarad Portiwgaleg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 801,590 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda | Tansanïa, Malawi, Sambia, Simbabwe, Eswatini, De Affrica, Y Comoros ![]() |
Cyfesurynnau | 19°S 35°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Mosambic ![]() |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad y Weriniaeth ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Mosambic ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Daniel Chapo ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Mosamic ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Maria Benvida Levy ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $15,777 million, $17,851 million ![]() |
Arian | Metical Mosambic ![]() |
Canran y diwaith | 23 ±1 canran ![]() |
Cyfartaledd plant | 5.359 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.446 ![]() |
Mae Mosambîc (yn swyddogol: Gweriniaeth Mosambîc), yn wlad sydd wedi'i lleoli yn Ne-ddwyrain Affrica, ac sy'n ffinio â Chefnfor India i'r dwyrain, Tansania i'r gogledd, Malawi a Sambia i'r gogledd-orllewin, Simbabwe i'r gorllewin, ac Eswatini a De Affrica i'r de a'r de-orllewin. Mae'r wladwriaeth sofran hon wedi'i gwahanu oddi wrth y Comoros, Mayotte, a Madagascar gan Sianel Mosambîc i'r dwyrain. Y brifddinas a'r ddinas fwyaf yw Maputo sydd a phoblogaeth o 1,133,200 (1 Gorffennaf 2023)[1] ac mae gan Mosambîc gyfan boblogaeth o 29,668,834 (2017)[2].
Rhwng y 7g a'r 11g, datblygodd cyfres o drefi porthladdol Swahili yn yr ardal, a gyfrannodd at ddatblygiad diwylliant a thafodiaith Swahili. Yn y cyfnod canoloesol hwyr, byddai masnachwyr o Somalia, Ethiopia, yr Aifft, Arabia, Persia ac India yn ymweld â'r trefi hyn. Nododd mordaith Vasco da Gama ym 1498 ddyfodiad y Portiwgaliaid, a ddechreuodd y broses o wladychu ryw saith mlynedd wedyn. Ar ôl dros bedair canrif o reolaeth Portiwgalaidd, enillodd Mosambîc ei hannibyniaeth ym 1975, gan ddod yn Weriniaeth Pobl Mosambîc yn fuan wedi hynny. Ar ôl dim ond dwy flynedd o annibyniaeth, disgynnodd y wlad i ryfel cartref dwys a hir a barhaodd o 1977 i 1992. Ym 1994, cynhaliodd Mosambîc ei hetholiad aml-bleidiol cyntaf ac ers hynny mae wedi parhau i fod yn weriniaeth arlywyddol gymharol sefydlog, er ei bod yn dal i wynebu peth gwrthryfela yn y rhanbarthau pellaf o'r brifddinas, lle mae Islamiaeth ar ei chryfaf.
Mae gan Mosambîc adnoddau naturiol cyfoethog a helaeth, er gwaethaf y ffaith bod economi'r wlad yn seiliedig yn bennaf ar bysgodfeydd llwyddiannus— molwsg, cramenogion ac echinodermau yn bennaf—ac amaethyddiaeth gyda diwydiant bwyd a diod, gweithgynhyrchu cemegol, alwminiwm ac olew. Mae'r sector twristiaeth yn ehangu'n flynyddol. Ers 2001, mae twf CMC Mosambîc wedi cynyddu, ond ers 2014/15, gwelwyd gostyngiad sylweddol mewn gwariant y cartrefi. Gwelir cynnydd sydyn yn yr anghydraddoldeb economaidd.[3] Mae'r genedl yn parhau i fod yn un o'r gwledydd tlotaf a mwyaf tanddatblygedig yn y byd, gan raddio'n isel o ran CMC y pen, datblygiad dynol, anghydraddoldeb a disgwyliad oes cyfartalog.
Mae poblogaeth y wlad yn cynnwys mwy na 2,000 o grwpiau ethnig, yn ôl amcangyfrifon 2024, sy'n gynnydd o 2.96% yn y boblogaeth o 2023, yn cynnwys pobl Bantu yn bennaf. Fodd bynnag, yr unig iaith swyddogol ym Mosambîc yw Portiwgaleg, a siaredir mewn ardaloedd trefol fel iaith gyntaf neu ail iaith, ac yn gyffredinol fel lingua franca rhwng Mosambîciaid iau sydd â mynediad at addysg ffurfiol. Ymhlith yr ieithoedd lleol pwysicaf mae Tsonga, Makhuwa, Sena, Chichewa, a Swahili. Mae Glottolog yn rhestru 46 o ieithoedd a siaredir yn y wlad,[4] ac mae un ohonynt yn iaith arwyddion (Iaith Arwyddo Mosambîc/ Língua de sinais de Moçambique ). Y grefydd fwyaf ym Mosambîc yw Cristnogaeth, gyda lleiafrifoedd sylweddol yn dilyn Islam a chrefyddau traddodiadol Affricanaidd.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Cafodd y wlad ei henwi'n Moçambique gan y Portiwgaliaid ar ôl Ynys Mozambique, gair sy'n deillio o Mussa Bin Bique, Musa Al Big, Mossa Al Bique, Mussa Ben Mbiki neu Mussa Ibn Malik, masnachwr Arabaidd a ymwelodd â'r ynys yn gyntaf ac a fu'n byw yno'n ddiweddarach ac a oedd yn dal yn fyw pan alwodd Vasco da Gama ar yr ynys ym 1498.[5] Prifddinas y drefedigaeth Bortiwgalaidd oedd y drefedigaeth ar yr ynys tan 1898, pan gafodd ei symud i'r de i Lourenço Marques (sydd bellach ym Maputo).

Mudo Bantw
[golygu | golygu cod]Ymfudodd pobloedd sy'n siarad Bantw i Mosambîc mor gynnar â'r 4g CC.[6] Credir rhwng y ganrif gyntaf a'r 5g OC, bod tonnau o fudo o'r gorllewin a'r gogledd wedi mynd trwy ddyffryn Afon Zambezi ac yna'n raddol i mewn i lwyfandir ac ardaloedd arfordirol De Affrica. Fe wnaethant sefydlu cymunedau amaethyddol yn seiliedig ar fugeilio gwartheg. Daethant â'r dechnoleg ar gyfer toddi[7] a thrin haearn gyda nhw.
Arfordir Swahili
[golygu | golygu cod]O ddiwedd y mileniwm cyntaf OC, ymestynnodd rhwydweithiau masnach helaeth drwy Gefnfor India mor belled a phorthladd hynafol Chibuene.[8] Gan ddechrau yn y 9g, datblygodd masnach Cefnfor India yn fawr a gwelwyd nifer o drefi porthladdol ar hyd arfordir Dwyrain Affrica cyfan, gan gynnwys Mosambîc heddiw. Roedd y rhain yn annibynol ac yn hunangynhaliol ond eto'n rhanu'r diwylliant Swahili. Yn aml, mabwysiadwyd Islamiaeth gan arweinwyr y cymunedau. Ym Mozambique, roedd Sofala, Angoche, ac Ynys Mosambîc yn bwerau rhanbarthol erbyn y 15g.[9]
Roedd y trefi hyn yn masnachu â masnachwyr o fewndir Affrica a'r byd ehangach drwy Gefnfor India. Roedd llwybrau carafanau aur ac ifori yn arbennig o bwysig. Darparodd taleithiau mewndirol fel Teyrnas Simbabwe a Theyrnas Mutapa yr aur a'r ifori, gan eu cyfnewid wedyn i fyny'r arfordir i ddinasoedd porthladdol mwy fel Kilwa a Mombasa.
Mosambîc Portiwgaleg (1498-1975)
[golygu | golygu cod]

Enwir y wlad ar ôll Ynys Mozambique, sef ynys gwrel fechan ger Bae Mossuril ar arfordir Nacala yng ngogledd Mozambique, a archwiliwyd gyntaf gan Ewropeaid ddiwedd y 15g.
Pan gyrhaeddodd fforwyr Portiwgalaidd Mosambîc ym 1498, roedd aneddiadau masnachu (Arabaidd) wedi bodoli ar hyd arfordir ac ynysoedd cyfagos ers sawl canrif.[10] O tua 1500, disodlwyd y swyddi masnachu a chaerau milwrol, Portiwgalaidd llawer o'r gymuned Arabaidd (o ran masnach a safleoedd milwrol), gan ddod yn borthladdoedd galw rheolaidd ar y llwybr môr.[11] Dyma'r camau cyntaf yn yr hyn a fyddai'n dod yn broses o wladychu gan y Portiwgaliaid.[11][12]
Nododd taith Vasco da Gama o amgylch Penrhyn Gobaith Da ym 1498 fynediad y Portiwgaliaid i fasnach, gwleidyddiaeth a chymdeithas y rhanbarth. Enillodd y Portiwgaliaid reolaeth dros Ynys Mosambîc a dinas Sofala ddechrau'r 16g, ac erbyn y 1530au, treiddiodd grwpiau bach o fasnachwyr a chwilwyr Portiwgalaidd yn chwilio am aur gan weithio eu ffordd i fewn i berfedd y wlad. Yma fe wnaethon nhw sefydlu garsiynau a swyddi masnachu yn Sena a Tete ar y Zambezi a cheisio rheoli'r fasnach aur yn llwyr.[13]
Rhyfel Annibyniaeth Mosambîc (1964–1975)
[golygu | golygu cod]
Wrth i syniadau comiwnyddol a gwrth-drefedigaethol ledaenu ledled Affrica, sefydlwyd llawer o fudiadau gwleidyddol cudd i gefnogi annibyniaeth Mosambîc. Honnodd y mudiadau hyn, mai ychydig o sylw a roddwyd i integreiddio llwythau brodorol Mosambîc a datblygiad ei chymunedau. Yn ôl y datganiadau gerila swyddogol, effeithiodd hyn ar fwyafrif y boblogaeth frodorol a ddioddefodd wahaniaethu enbyd a noddwyd gan y wladwriaeth Bortiwgalaidd a phwysau cymdeithasol enfawr. Fel ymateb i'r mudiad gerila, cychwynnodd llywodraeth Portiwgal o'r 1960au ac yn bennaf ddechrau'r 1970au newidiadau graddol gyda datblygiadau economaidd-gymdeithasol newydd a pholisïau egalitaraidd, tecach.[14]
Dechreuodd y Ffrynt dros Ryddhau Mosambîc (Frente de Libertação de Moçambique; FRELIMO) ymgyrch gerila yn erbyn rheolaeth Portiwgal ym Medi 1964. Daeth y gwrthdaro hwn—ynghyd â'r ddau arall a gychwynnwyd eisoes yn Angola a Gini Portiwgalaidd —yn rhan o'r hyn a elwir yn Rhyfel Trefedigaethol Portiwgalaidd (1961–1974). O safbwynt milwrol, roedd y fyddin reolaidd Portiwgalaidd yn dal rheolaeth dynn dros y dinasoedd a'r trefi mawr tra bu i'r lluoedd gerila danseilio eu grym mewn ardaloedd gwledig a llwythol yn y gogledd a'r gorllewin. Fel rhan o'u hymateb i FRELIMO, dechreuodd llywodraeth Portiwgal roi mwy o sylw i greu amodau ffafriol ar gyfer datblygiad cymdeithasol a thwf economaidd. [15]
Annibyniaeth (1975)
[golygu | golygu cod]Cymerodd FRELIMO reolaeth dros y diriogaeth ar ôl deng mlynedd o ryfela ysbeidiol. Ar yr un pryd trodd Portiwgal tuag at democratiaeth ei hun, ar ôl cwymp y gyfundrefn awdurdodaidd Estado Novo yn Chwyldro'r Carnasiwn ym Ebrill 1974 a'r coup aflwyddiannus ar 25 Tachwedd 1975. O fewn blwyddyn, roedd y rhan fwyaf o'r 250,000 o Bortiwgaliaid ym Mosambîc wedi gadael y wlad—rhai wedi'u halltudio gan lywodraeth y wlad lled-annibynnol, a rhai wedi gadael y wlad i osgoi dial posibl gan y llywodraeth newydd. Yn y diwedd, daeth Mosambîc yn annibynnol oddi wrth Portiwgal ar 25 Mehefin 1975. Roedd cyfraith wedi'i phasio o blaid FRELIMO, yn gorchymyn i'r Portiwgaliaid adael y wlad o fewn 24 awr gyda dim ond 20 cilogram (44 lb) o fagiau y person. Dychwelodd y rhan fwyaf ohonynt i Bortiwgal heb geiniog goch y delyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.citypopulation.de/en/mozambique/cities/.
- ↑ https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
- ↑ Barletta, Giulia; Ibraimo, Maimuna; Salvucci, Vincenzo; Sarmento, Enilde Francisco; Tarp, Finn (2022). The evolution of inequality in Mozambique. WIDER Working Paper (yn Saesneg). Helsinki: United Nations University World Institute for Development Economics Research. doi:10.35188/unu-wider/2022/284-3. ISBN 978-92-9267-284-3. Cyrchwyd 31 March 2024.
- ↑ "Glottolog 4.7 – Languages of Mozambique". glottolog.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 January 2023. Cyrchwyd 10 January 2023.
- ↑ M. D. D. Newitt (1972). "The Early History of the Sultanate of Angoche". The Journal of African History (Cambridge University Press) 13 (3): 398. doi:10.1017/S0021853700011713. JSTOR 180586. https://www.jstor.org/stable/180586. Adalwyd 14 July 2024.
- ↑ Lander, Faye; Russell, Thembi (2018). "The archaeological evidence for the appearance of pastoralism and farming in southern Africa" (yn en). PLOS ONE 13 (6): e0198941. Bibcode 2018PLoSO..1398941L. doi:10.1371/journal.pone.0198941. PMC 6002040. PMID 29902271. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6002040.
- ↑ Lyaya, Edwinus Chrisantus. "Metallurgy in Tanzania". ResearchGate. Cyrchwyd 1 July 2022.
- ↑ Sinclair, Paul; Ekblom, Anneli; Wood, Marilee (2012). "Trade and Society on the Southeast African Coast in the Later First Millennium AD: the Case of Chibuene". Antiquity 86 (333): 723–737. doi:10.1017/S0003598X00047876.
- ↑ Rathee, D. (2021). "Hunt for Oil in Offshore Angoche, Mozambique". Fifth EAGE Eastern Africa Petroleum Geoscience Forum (European Association of Geoscientists & Engineers): 1–5. doi:10.3997/2214-4609.2021605026. http://dx.doi.org/10.3997/2214-4609.2021605026.
- ↑ Isaacman, Allen; Peterson, Derek (2006). "Making the Chikunda: Military Slavery and Ethnicity in Southern Africa, 1750–1900". In Brown, Christopher Leslie; Morgan, Philip D. (gol.). Arming Slaves: From Classical Times to the Modern Age. Yale University Press. tt. 95–119. doi:10.12987/yale/9780300109009.003.0005. ISBN 978-0-300-13485-8.
- ↑ 11.0 11.1 Sheldon, Kathleen Eddy; Penvenne, Jeanne Marie. "Mozambique: Arrival of the Portuguese". Encyclopædia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 June 2021.
- ↑ Newitt, Malyn (2004). "Mozambique Island: The Rise and Decline of an East African Coastal City, 1500–1700". Portuguese Studies 20: 21–37. doi:10.1353/port.2004.0001. ISSN 0267-5315. JSTOR 41105216. http://www.jstor.org/stable/41105216. Adalwyd 7 June 2021.
- ↑ Isaacman, Allen; Peterson, Derek (2006). "Making the Chikunda: Military Slavery and Ethnicity in Southern Africa, 1750–1900". In Brown, Christopher Leslie; Morgan, Philip D. (gol.). Arming Slaves: From Classical Times to the Modern Age. Yale University Press. tt. 95–119. doi:10.12987/yale/9780300109009.003.0005. ISBN 978-0-300-13485-8.Isaacman, Allen; Peterson, Derek (2006).
- ↑ "piri piri | BOOK OF DAYS TALES". www.bookofdaystales.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 March 2021. Cyrchwyd 28 January 2021.
- ↑ "CD do Diário de Notícias – Parte 08". 8 July 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2012. Cyrchwyd 2 May 2010.