Lleufer
Gwedd
| Enghraifft o: | cylchgrawn, cylchgrawn |
|---|---|
| Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
| Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1944 |
| Dechrau/Sefydlu | 1944 |
| Lleoliad cyhoeddi | Llandysul |
| Dynodwyr | |
Cylchgrawn Cymraeg chwarterol oedd Lleufer a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru. Roedd yn cynnwys erthyglau cyffredinol ac academaidd, adolygiadau llyfryddol, barddoniaeth a ffuglen, hysbysebion a nodiadau ar y gymdeithas. Fe'i cyhoeddwyd rhwng 1944 a 1979. Sefydlwyd The Workers’ Educational Association yn 1903 i hyrwyddo mynediad i addysg barhaus (neu "addysg am oes"). Ffurfiwyd y gangen Gymraeg gyntaf o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru yn 1907.[angen ffynhonnell]
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.