Cymdeithas Addysg y Gweithwyr
| Enghraifft o: | sefydliad di-elw, coleg addysg bellach, sefydliad elusennol |
|---|---|
| Lleoliad | Llundain |
| Lleoliad yr archif | Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
![]() | |
| Gweithwyr | 1,435, 1,266, 1,004, 1,446, 2,331, 736 |
| Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Rhanbarth | Llundain, Tower Hamlets |
| Gwefan | http://www.wea.org.uk/ |
| Dynodwyr | |
Corff a sefydlwyd i ddarparu mynediad i addysg i oedolion o unrhyw gefndir yw Cymdeithas Addysg y Gweithwyr neu CAG (Saesneg: Workers’ Educational Association neu WEA).
Dechreuodd y mudiad pan sefydlodd Albert Mansbridge An Association to promote the Higher Education of Working Men yn 1903. Newidiodd ei enw i Workers Educational Association yn 1905.
Ceir dau gorff ar wahân yng Nghymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (De Cymru) a Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru). Sefydlwyd cangen Gogledd Cymru yn 1925 gan Robert Roberts (Silyn). Ers 1992/3, mae'r rhain yn hollol ar wahân i'r corff Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yn Lloegr a'r Alban. Mae corff ar wahân yng Ngogledd Iwerddon hefyd.
Ar 1 Awst 2001, ymunodd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd Cymru) a Coleg Harlech i greu Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (De Cymru) Archifwyd 2009-05-04 yn y Peiriant Wayback
- Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (Gogledd) Coleg Harlech Archifwyd 2010-02-18 yn y Peiriant Wayback
