Yetholm Loch
Gwedd
| Math | llyn |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gororau'r Alban |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 55.545047°N 2.314481°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
| Manylion | |
Mae Yetholm Loch yn llyn ger Kelso yng Ngororau’r Alban ar gyrion y Bryniau Cheviot. Roedd Gwarchodfa Natur Ymddiriedolaeth Natur yr Alban yno[1] ac mae cuddfan ar lan y llyn. Mae cors helyg ar ben deheuol y llyn. Gwelir Bras y Cyrs, Gïach cyffredin a Gylfinir yno, yn ogystal ag Alarch dof, Crëyr, Llydanbig, Hwyaden wyllt, Hwyaden lwyd, Hwyaden gopog a Dwrgi ar y llyn.[2]
Ar un adeg, roedd tŵr ar ynys ynghanol y llun, a sarn ati hi. Dinistrwyd y tŵr gan Iarll Surrey ar 15 Mai 1523.


Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Gwefan Ymddiriedolaeth Natur yr Alban". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-01. Cyrchwyd 2020-08-07.
- ↑ Gwefan Berwickshire News
