USB
USB derbynnydd Math A | |
| Enghraifft o: | protocol suite, interface standard, de facto standard |
|---|---|
| Math | serial bus, multi-lane serial bus, peripheral bus, connector, electrical connector |
| Dechrau/Sefydlu | 1996 |
| Rhagflaenwyd gan | PS/2 connector, serial port, Apple Desktop Bus, parallel port, game port |
| Yn cynnwys | USB 1.0, USB 1.1, USB 2.0, USB 3.0, USB 3.1, USB 3.2, USB4 1.0, USB4 2.0 |
| Rhagflaenydd | parallel port, game port |
| Gwefan | https://www.usb.org/ |
| Dynodwyr | |
USB (byrfodd o'r Saesneg: Universal Serial Bus) yw'r safon rhyngwladol a ddefnyddir yn aml i gysylltu teclynnau electronig â'i gilydd. Fel arfer, fe'i ceir ar gebl i gysylltu dau ddyfais cyfrifiadurol neu i wefru teclyn ymylol, cyfrifiadurol fel y llygoden, yr allweddell neu gamera digidol. Fe'i rhyddhawyd gyntaf yn Nhachwedd 1994 a chedwir y safonnau (2019) gan Fforwm yr IF (USB Implementers Forum). Hyd at 2019 cafwyd tair cenhedlaeth o fanylebau: USB 1.x a ddaeth allan yn 1994, USB 2.0 yn Ebrill 2000, ac USB 3.x yn 2009.[1]


Yn 2019 roedd y fforwm yr USB IF yn gweithio ar safon ar gyfer fersiwn di-wifr, gan ddefnyddio'r un gweithdrefnau (protocolau), sef technoleg ultra-wideband gyda graddfa trosglwyddo data o hyd at 480 Mbit.
Datblygwyd yr Universal Serial Bus i symleiddio a gwella'r cysylltiad rhwng cyfrifiaduron personol a dyfeisiau ymylol, o'i gymharu â chysylltiadau an-safonol neu ad-hoc a oedd eisoes yn bodoli eisoes.[2]
O safbwynt y defnyddiwr y cyfrifiadur, roedd yr USB yn haws i'w defnyddio mewn sawl ffordd. Mae'r USB yn cysylltu'n otomatig, felly nid oes angen i'r defnyddiwr addasu gosodiadau ar y ddyfais a rhyngwyneb y cyfrifiadur ar gyfer cyflymder neu fformat y data ayb. Ar y pryd roedd hyn yn gam sylweddol i'r cyfeiriad iawn, ac yn hwyluso'r gwaith i'r defnyddiwr.[3] Mae safoni'n digwydd ar ochr y gwesteiwr (neu 'host'), felly gall unrhyw declyn ymylol ddefnyddio unrhyw dderbynydd; gelwir hyn yn "hot pluggable" - nid oes raid ailgychwyn y cyfrifiadur er mwyn iddo adnabod y ddyfais ymylol.
Gan fod y ddyfais ymylol yn derbyn ei gwefr o'r rhyngwyneb (y cyfrifiadur), yna nid oes yn rhaid i'r ddyfais ymylol fod â'i chyflenwad trydan ei hun, yn enwedig pan fo'r teclyn yn un bychan.
Ar gyfer cynhyrchwyr caledwedd a datblygwyr meddalwedd, mae'r safon USB yn dileu'r angen i ddatblygu rhyngwynebau perchnogol i declynau ymylol newydd. Mae'r ystod eang o gyflymder trosglwyddo sydd ar gael o ddyfeisiadau addas ar gyfer rhyngwyneb USB yn amrywio o'r allweddellau a'r llygoden syml i fyny i ffrydio rhyngwynebau fideo cymhleth.
Adnabod y derbynyddion (y socedi)
[golygu | golygu cod]| Cysylltydd | USB 1.0 1996 |
USB 2.0 2001 |
USB 2.0 Diwygiwyd |
USB 3.0 2011 |
USB 3.1 2014 |
USB 3.2 2017 |
|---|---|---|---|---|---|---|
| Cyfradd data | 1.5 Mbit/s (Low Speed) |
480 Mbit/s (High Speed) |
480 Mbit/s (High Speed) |
5 Gbit/s (SuperSpeed) |
10 Gbit/s (SuperSpeed+) |
20 Gbit/s (SuperSpeed+) |
| 12 Mbit/s (Full Speed) | ||||||
| Safon | Math A |
Math A |
Ddim ar gael | |||
| Math B |
Math B |
Ddim ar gael | ||||
| Mini | Ddim ar gael | Mini A |
Daeth i ben[1] | Ddim ar gael | ||
| Ddim ar gael | Mini B |
Ddim ar gael | ||||
| Ddim ar gael | Ddim ar gael | Mini AB |
Ddim ar gael | |||
| Micro | Ddim ar gael | Ddim ar gael | Micro A |
Daeth i ben | Ddim ar gael | |
| Ddim ar gael | Ddim ar gael | Micro B |
Micro B |
Ddim ar gael | ||
| Ddim ar gael | Ddim ar gael | Micro AB |
Daeth i ben | Ddim ar gael | ||
| Duplex llawn | Ddim ar gael | Ddim ar gael | Ddim ar gael | Ddim ar gael | Type-C | |
Logos
[golygu | golygu cod]-
Certified USB
-
"Y Tryfer", sy'n nodi fod y ddyfais wedi cyrraedd safon USB.[4]
-
Logo Hi-Speed USB; Rhagfyr 2013
-
Cerdyn ehangu o un i 4 slot; 2010
-
SuperSpeed USB; 2011
-
Logo'r fersiwn di-wifr; heb ei lansio yn 2019.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 966: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ Jan Axelson, USB Complete: The Developer's Guide, Fifth Edition, Lakeview Research LLC, 2015, ISBN 1931448280, pages 1-7
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 966: attempt to index field 'inv_local_long' (a nil value).
- ↑ "Icon design recommendation for Identifying USB 2.0 Ports on PCs, Hosts and Hubs" (PDF). USB. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-10-03. Cyrchwyd 2019-02-28..