Tri Tryweryn
Gwedd
| Enghraifft o: | triawd |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 1963 |
| Yn cynnwys | Emyr Llywelyn, Owain Williams, John Albert Jones |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |

Tri ymgyrchydd a osododd fom ar safle adeiladu cronfa ddŵr Tryweryn oedd Tri Tryweryn, sef: Emyr Llywelyn, Owain Williams, a John Albert Jones. Cafodd Emyr Llywelyn ac Owain Williams eu carcharu am ddifrodi trosglwyddydd ar y safle gyda'r bom yn oriau mân fore Sadwrn, 10 Chwefror 1963.[1] Arestiwyd Emyr Llywelyn, a oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth, yn y dre honno rhyw wythnos wedyn ond wnaeth e ddim datgelu pwy oedd gyda fe yn gwneud y weithred. Fe fu achos traddodi yn y Bala, gyda William R. P. George yn ei amddiffyn. Plediodd yn euog ac fe'i dedfrydwyd am flwyddyn o garchar yn Asaisis Caerfyrddin.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Bomwyr Tryweryn yn cwrdd ar ôl hanner can mlynedd. Golwg360 (25 Ionawr 2013). Adalwyd ar 10 Chwefror 2013.
| Cymunedau Cymreig a ddinistrwyd |
|---|
|
Cwm Tryweryn (1965) |
|
Mynydd Epynt (1949) |
|
Cwm Elan (1893) |
|
Llanwddyn (1888) |
|
|