Sichuan
| Math | talaith Tsieina |
|---|---|
| Prifddinas | Chengdu |
| Poblogaeth | 81,100,000, 83,674,866 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Yin Li, Huang Qiang |
| Cylchfa amser | UTC+08:00 |
| Gefeilldref/i | Ceprano, Yamanashi, Hiroshima |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Gweriniaeth Pobl Tsieina |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 485,000 km² |
| Yn ffinio gyda | Chongqing, Rhanbarth Ymreolaethol Tibet, Gansu, Yunnan, Qinghai, Guizhou, Shaanxi |
| Cyfesurynnau | 30°N 103°E |
| CN-SC | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff gweithredol | People's Government of Sichuan Province |
| Corff deddfwriaethol | Sichuan Provincial People's Congress |
| Pennaeth y Llywodraeth | Yin Li, Huang Qiang |
![]() | |
| Crefydd/Enwad | Taoaeth, Bwdhaeth, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, Protestaniaeth, Islam |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | 4,859,880 million ¥ |
Talaith yng ngorllewin Gweriniaeth Pobl Tsieina yw Sichuan (Tsieinëeg: 四川省; pinyin: Sìchuān Shěng). Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 86,730,000. Prifddinas y dalaith yw Chengdu.
Hyd 1997, Sichuan oedd talaith fwyaf poblog Tsieina, ond y flwyddyn honno daeth Chungking, oedd cyn hynny yn rhan o'r dalaith, yn dalaith ddinesig ar wahân. gan leihau'r boblogaeth o 30.2 miliwn. Saif Sichuan yn awr yn drydydd ymhlith taleithiau Tsieina o ran poblogaeth. Perthyna 95% o boblogaeth y dalaith i grŵp ethnig y Tsineaid Han, gyda'r 5% arall yn perthyn i nifer o grwpiau megis yr Yi, Tibetiaid, Qiang, Miao a Hui.
Mae rhan orllewinol y dalaith yn cynnwys mynyddoedd mwyaf dwyreiniol yr Himalaya. Y copa uchaf yw Gongga Shan, 7590 medr uwch lefel y môr. Perthyna'r rhan yma o'r dalaith i diriogaeth hanesyddol Tibet. Yn 2006, cyhoeddwyd Gwarchodfa Natur Wolong, gwarchodfa a sefydlwyd i ddiogelu'r Panda Mawr, yn Safle Treftadaeth y Byd.
Ar 12 Mai 2008 effethiwyd ar y dalaith gan ddaeargryn difrifol.
| Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
|---|---|
| Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
| Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
| Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
| Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Cong • Macau |

