Roscommon
Gwedd
	
	
|  | |
|  | |
| Math | tref  | 
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Roscommon  | 
| Gwlad |  Gweriniaeth Iwerddon | 
| Arwynebedd | 8 km²  | 
| Uwch y môr | 80 ±1 metr  | 
| Cyfesurynnau | 53.6333°N 8.1833°W  | 
|  | |
Tref yn Iwerddon yw Roscommon (Gwyddeleg: Ros Comáin),[1] sy'n dref sirol Swydd Roscommon, Gweriniaeth Iwerddon, yng nghanolbarth yr ynys. Enwir y dref ar ôl Sant Comáin (Coman). Poblogaeth: tua 5,000. Lleolir Castell Roscommon ger y dref.
Allforiwyd defaid Roscommon i Ben Llŷn rhwng 1810-15 gan Dishley Leicester o'r Iwerddon a Lloyd Edwards, Nanhoron a'i gyfaill Syr Watkin Williams-Wynn (Yr Arglwydd Mostyn), Ystâd Cefn Amwlch o Gymru. O fewn pedair blynedd o werthu'r ddafad i'w tenantiaid a'u bridio efo hwrdd Cymreig, roedd yr epil yn ddafad bur ac fe'i galwyd yn "ddafad Llŷn".[2] Maen nhw'n gweddu i dir gwastad y dyffryn yn ogystal â thir mynydd.[3]

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Placenames Database of Ireland", logainm.ie; adalwyd 10 Hydref 2022
- ↑ Fferm a Thyddyn, Calan Mai 2014, rhif 53. Awdur: T. Rees Roberts.
- ↑ Lua error in Modiwl:Citation/CS1/Date_validation at line 740: bad argument #1 to 'insert' (table expected, got nil).
 
	