Neidio i'r cynnwys

Practical Magic

Oddi ar Wicipedia
Practical Magic
Poster
Cyfarwyddwyd ganGriffin Dunne
Cynhyrchwyd ganDenise Di Novi
Sgript
Yn serennu
Cerddoriaeth ganAlan Silvestri
SinematograffiAndrew Dunn
Golygwyd ganElizabeth Kling
Stiwdio
Dosbarthwyd ganWarner Bros.
Rhyddhawyd gan
  • Hydref 16, 1998 (1998-10-16)
Hyd y ffilm (amser)104 munud[1]
GwladYr Unol Daleithiau
IaithSaesneg
Cyfalaf$75 miliwn[2]
Gwerthiant tocynnau$68.3 miliwn[3]

Ffilm ffantasi ramantaidd Americanaidd o 1998 yw Practical Magic. Seiliwyd y ffilm ar y nofel 1995 Practical Magic gan Alice Hoffman. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Griffin Dunne ac yn serennu Sandra Bullock, Nicole Kidman, Dianne Wiest, Stockard Channing, Aidan Quinn, a Goran Visnjic.

Mae Bullock a Kidman yn chwarae chwiorydd Sally a Gillian Owens, ill ddwy yn ddisgynyddion o linach hir o wrachod. Magwyd gan eu modrybedd ar ôl marwolaeth eu rhieni oherwydd melltith ar y teulu, dysgodd y chwiorydd sut i ddefnyddio swyngyfaredd yn ymarferol wrth iddynt dyfu. Fel oedolion, rhaid i Sally a Gillian ddefnyddio eu swyngyfaredd er mwyn dinistrio ysbryd drwg cariad camdriniol Gillian cyn iddo eu lladd hwythau.

Rhyddhawyd y ffilm ar 16 Hydref 1998. Gwnaeth y ffilm £50.87 miliwn ($68.3 miliwn) ar draws y byd yn erbyn cyllideb o £55 miliwn ($75 miliwn). Pan ddaeth y ffilm allan yn wreiddiol, derbyniodd sylw cymysg oddi wrth critigyddion, a oedd yn nodi bod y cymysgedd o wahanol genres yn ddryslyd, gan gynnwys ffantasi oruwchnaturiol, drama trais yn y cartref, comedi rhamantaidd, a drama threfniadol heddlu. Erbyn hyn, mae wedi ennill ddilyniaeth gwlt oherwydd ei chast, trac sain, a themâu ffeministaidd. Trefnir ffilm ddilyniant, o dan yr enw dros dro o Practical Magic 2, i'w rhyddhau ar 18 Medi 2026.

    Derbyniad

    [golygu | golygu cod]

    Rhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:

    • 4.6/10[4] (Rotten Tomatoes)
    • 46/100
    • 26% (Rotten Tomatoes)

    Gweler hefyd

    [golygu | golygu cod]

    Cyfeiriadau

    [golygu | golygu cod]
    1. "Practical Magic (12)". British Board of Film Classification. October 27, 1998. Cyrchwyd May 7, 2025.
    2. "Practical Magic". Box Office Mojo. Cyrchwyd October 23, 2024.
    3. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw numbers
    4. "Practical Magic". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 5 Hydref 2021.