Opera
![]() | |
Enghraifft o: | genre gerddorol, dosbarth o theatr, type of dramatico-musical work ![]() |
---|---|
Math | theatre music, cerddoriaeth glasurol, musical drama, cyfansoddi cerddoriaeth ![]() |
Gwlad | Ewrop ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 16 g ![]() |
Yn cynnwys | pit orchestra ![]() |
![]() |

Ffurf o ddrama trwy gyfrwng cerddoriaeth yw opera. Fe ymddangosodd yn yr Eidal ar ddechreuad y 15g, ac fe'i chysylltir â cherddoriaeth glasurol y Gorllewin. Mae sawl agwedd o opera yn debyg i ddrama gyffredin: actio, gwisgoedd, ac addurn llwyfan. Fodd bynnag, yn wahanol i ffurfiau eraill o ddrama, canu sydd wrth graidd opera. Cyfeilir y canwyr gan grŵp o offerynwyr, a all fod cyn lleied ag 13 o offerynwyr (mewn operâu Benjamin Britten er enghraifft) neu'n gerddorfa symffonig llawn (fel mewn operâu Wagner). Weithiau defnyddir dawns yn ogystal, yn enwedig yn y traddodiad Ffrengig (gyda chyfansoddwyr megis Lully a Rameau).
Mae sawl traddodiad o wahanol lefydd yn y byd a gelwir yn opera hefyd, Opera Tseinïaidd er enghraifft. Fodd bynnag, er fod ffurf tebyg ganddynt, datblygodd y traddodiadau hyn ar wahân: maent yn ffurfiau celfyddol nad ydynt yn dibynnol ar Opera Gorllewinol.
Yr opera yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Cenir opera gan gorau Cymru ers Blodwen, opera boblogaidd y Dr Joseph Parry. Ar un adeg roedd y cwmnïau opera amatur yn niferus iawn. Ar ddechrau'r 20g hyfforddai a pherfformiai'r cantorion opera o Gymry yn Lloegr, a chyrhaeddai'r goreuon lwyfannau Sadlers Wells a Covent Garden.Sefydlwyd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru gan y cyn-löwr Idloes Owen, sy'n cael ei gyfrif ymhlith y gorau yn Ewrop. Ymhlith y cantorion opera byd-enwog o Gymru mae Gwyneth Jones, Janet Price, Elizabeth Vaughan, Stuart Burrows, Geraint Evans, a Bryn Terfel.