Marrakech
| Math | dinas, dinas fawr |
|---|---|
| Poblogaeth | 1,002,697 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Fatima Ezzahra El Mansouri |
| Cylchfa amser | Amser Gorllewin Ewrop, UTC+00:00 |
| Gefeilldref/i | Sousse, Granada, Marseille, Clermont-Ferrand, Tombouctou, Tashkent, Ajaccio, Tours, Dinas Efrog Newydd, Mecca, Paris, Madrid, Odesa, Sidi Bennour, Granby |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Imperial cities of Morocco |
| Sir | Marrakesh Prefecture |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 230 km² |
| Uwch y môr | 465 metr |
| Cyfesurynnau | 31.62947°N 7.98108°W |
| Cod post | 40000 |
| MA-MAR | |
| Pennaeth y Llywodraeth | Fatima Ezzahra El Mansouri |
![]() | |
| Sefydlwydwyd gan | Abu Bakr ibn Umar |

Dinas ym Moroco yw Marrakech neu Marrakesh (Amazigh: Murakush, Arabeg: مراكش Murrākush). Mae'n cael ei hadnabod fel y "Ddinas Goch" ac mae'n un o bedair dinas ymherodrol Moroco, gyda Rabat, Meknès a Fes. Mae ganddi boblogaeth o 1,070,838 (2004), ac mae'n brifddinas talaith Marrakech-Tensift-El Haouz, ger troedfryniau Mynyddoedd yr Atlas yn ne canolbarth Moroco.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Fel nifer o ddinasoedd yng Ngogledd Affrica a'r Dwyrain Canol, mae Marrakech yn cynnwys hen ddinas gaerog (y medina) a dinas fodern gerllaw (sef y Gueliz neu ville nouvelle). Fe'i gwasanaethir gan Faes Awyr Rhyngwladol Ménara (RAK) a rheilffordd sy'n ei chysylltu â Casablanca a'r gogledd. Marrakech yw'r dryddedd ddinas ym Moroco o ran poblogaeth ar ôl Casablanca a Rabat.
Mae Marrakech yn ddinas hanesyddol a ystyrir yn llawer mwy "Affricanaidd" na'r dinasoedd mawr eraill ac a nodweddir gan ei diwylliant Berber. Cafodd ei sefydlu yn 1062 gan y swltan Almoravid Yusuf ibn Tashfin. Tyfodd i fod yn brifddinas economaidd a diwylliannol de Moroco ac am gyfnod yn yr Oesoedd Canol bu'n brifddinas y wlad gyfan hefyd.
Ceir y souq (marchnad awyr agored) mwyaf yn y wlad yma ac mae'r ddinas yn enwog hefyd am y Djemaa el Fna, sgwâr mawr agored sy'n fwrlwm o acrobatiaid, diddanwyr, chwedleuwyr a cherddorion o fore tan nos pryd mae'n troi'n fath o fwyty fawr agored gyda nifer o stondinau bwyd.
Mae medina Marrakech yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.
Ceir sawl parc a gardd yn y ddinas, yn cynnwys Gardd Majorelle a Gerddi Menara.
Llywodraeth leol
[golygu | golygu cod]Marrakech yw prifddinas a chanolfan weinyddol talaith Marrakech-Tensift-El Haouz. Rheolir Marrakech gan Gyngor Dinas o 80 o gynrychiolwyr etholedig. Yn haf 2009, enillodd dinas Marrakech le yn hanes merched Moroco pan etholodd cyfarfod llawn o'r cyngor Mme Fatima Zohra El Mansouri yn faer: dyma'r tro cyntaf i ferch ddod yn faer yn hanes Moroco gyfan.[1]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Ibn al-Banna al-Marrakushi (1256 - tua 1321), mathemategydd a seryddwr
- Élisabeth Guigou (g. 1946), gwleidydd
- Mordechai Vanunu (g. 1954), gwyddionydd
Gefeillddinasoedd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Tudalen y Maer newydd ar wefan y ddinas". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-08-04. Cyrchwyd 2009-07-22.
