Mainz
| Math | dinas fawr, tref goleg, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Rhineland-Palatinate |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Afon Main, Mogons |
| Poblogaeth | 222,889 |
| Sefydlwyd |
|
| Pennaeth llywodraeth | Nino Haase |
| Cylchfa amser | CET, UTC+01:00, UTC+2 |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Q22117180 |
| Sir | Rheinland-Pfalz |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 97.73 km² |
| Uwch y môr | 94 metr |
| Gerllaw | Afon Rhein, Afon Main |
| Yn ffinio gyda | Mainz-Bingen district, Wiesbaden, Groß-Gerau, Nieder-Olm |
| Cyfesurynnau | 49.9994°N 8.2736°E |
| Cod post | 55116–55131 |
| Pennaeth y Llywodraeth | Nino Haase |
![]() | |
Dinas yn ne-orllewin yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Rheinland-Pfalz yw Mainz (Ffrangeg: Mayence). Saif ar afon Rhein, gyferbyn a'r fan lle mae afon Main yn ymuno â hi. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 200,234.
Sefydlwyd caer Rufeinig Moguntiacum yma gan y cadfridog Drusus tua 13 CC. Datblygodd yn dref a chanolfan filwrol bwysig ac yn brifddinas talaith Germania Superior.
Cipiwyd y ddinas gan yr Alamanni yn 368 a chan y Fandaliaid ac eraill yng ngaeaf 406, pan rewodd afon Rhein a'u galluogi i groesi. Daeth Sant Boniface yn Archesgob cyntaf Mainz tua chanol yr 8g. Yn y Canol Oesoedd roedd Archesgobion Mainz yn bwerus iawn, ac yn cael eu hystyried yn ddirprwyon y Pab i'r gogledd o'r Alpau. Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, meddiannwyd Mainz gan fyddin Ffrainc rhwng 1919 a 1930.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa Gutenberg
- Eglwys Gadeiriol Sant Martin
- Eglwys San Steffan
- Kurfürstliches Schloss (palas)
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Johann Gutenberg (c. 1398-1468), dyfeisydd argraffu a theip symudol
- Franz Bopp (1791-1867), ieithegwr cymharol
- Peter Cornelius (1824-1874), cyfansoddwr, bardd ac awdur
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Almaeneg) (Saesneg) Gwefan swyddogol
