Jacqueline Pascal
Gwedd
| Jacqueline Pascal | |
|---|---|
| Ganwyd | 5 Hydref 1625 Clermont-Ferrand |
| Bu farw | 4 Hydref 1661 Paris |
| Dinasyddiaeth | Ffrainc |
| Galwedigaeth | bardd, lleian, ysgrifennwr, athronydd, addysgwr |
| Tad | Étienne Pascal |
| Mam | Antoinette Begon |
Lleian a bardd Ffrengig oedd Jacqueline Pascal (4 Hydref 1625 – 4 Hydref 1661). Roedd yn chwaer yr athronydd a'r mathemategydd Blaise Pascal. Dechreuodd farddoni pan oedd yn wyth oed a sgwennodd ddrama bum act pan oedd yn unarddeg oed.[1]
Oherwydd dylanwad ei brawd, cafodd droedigaeth i fath o Babyddiaeth Sistersiaidd o'r enw Janseniaeth' a oedd yn boblogaidd yn Ffrainc ac a oedd yn gweld y pechod gwreiddiol, rhagordeiniaeth a gras Duw fel canolbwynt eu ffydd. Daeth yn lleian yn 1652, yn Abaty Port-Royal ym Mharis.[2]
Fe'i ganed yn ninas Clermont-Ferrand, Auvergne, yng nghanol Ffrainc.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Encyclopaedia Britannica: A Dictionary of Arts, Sciences, Literature and General Information (yn Saesneg). Encyclopaedia Britannica. 1911. t. 881.
- ↑ iep.utm.edu; adalwyd Ebrill 2016