Francesco Filelfo
| Francesco Filelfo | |
|---|---|
| Ganwyd | 25 Gorffennaf 1398 Tolentino |
| Bu farw | 31 Gorffennaf 1481 Fflorens |
| Dinasyddiaeth | March of Ancona |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cyfieithydd, academydd, diplomydd, bardd, areithydd, athronydd, ieithegydd clasurol, dyneiddiwr, ysgrifennwr, copïwr |
| Cyflogwr |
|
| Adnabyddus am | Consolatio ad Iacobum Antonium Marcellum de obitu Valerii filii, Rhetorica ad Alexandrum, Letters, Orazioni in lode dello illustrissimo poeta Dante Alighieri, Troicus, Commentationes Florentinae de exilo, De ilio non capto, Περὶ ψυχαγωγίας, Carminum libri, Euthyphron, Respublica Lacedaemoniorum, Commento ai Rerum vulgarium fragmenta, Oratio parentalis, De Genuensium deditione, Sphortias, Cyri Paedia, Numa, Lycurgus, Fabulae, Agesilaus, Satyrae |
| Plant | Gianmario Filelfo |
Ysgolhaig a bardd o'r Eidal a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Francesco Filelfo (1398 – 1481) sydd yn nodedig am gasglu llawysgrifau Groeg clasurol.
Ganed ef yn Tolentino yng Ngororau Ancona, yng nghanolbarth yr Eidal, a oedd ar y pryd dan reolaeth Taleithiau'r Babaeth. Astudiodd y gyfraith a rhethreg ym Mhrifysgol Padova, a bu'n athro yno am gyfnod. Teithiodd i Gaergystennin ym 1420 i berffeithio'i grap ar yr iaith Roeg. Treuliodd saith mlynedd yng Nghaergystennin yn astudio Groeg dan yr ysgolhaig Manuel Chrysoloras, a phriododd â Theodora, merch Chrysoloras. Dychwelodd Filelfo i Fenis ym 1427 gyda'i theulu a helfa fawr o destunau Groeg.[1]
Penodwyd Filelfo yn athro rhethreg ac athroniaeth foesol ym Mhrifysgol Bologna ym 1428. Symudodd i Brifysgol Fflorens ym 1429, a denodd nifer fawr o wrandawyr i'r ddarlithoedd ar awduron Groeg, gan gynnwys dinasyddion amlwg megis Cosimo de’ Medici, Palla Strozzi, a Leonardo Bruni. Collodd ffafr Cosimo ym 1431, ac ym 1433 bu ymdrech i'w ladd. Pan ddychwelodd y Medici i rym ym 1434, ffoes Filelfo o Fflorens. Addysgodd yn Siena o 1435 i 1438 ac yno goroesodd Filelfo gais arall i'w lofruddio.[1]
Ym 1439 cafodd Filelfo ei benodi yn bardd llys i Ddug Milan ac yn athro rhethreg ym Mhrifysgol Padova. Am weddill ei oes, bu dan nawddogaeth y Visconti a'r Sforza, dugiaid Milan. Cyfieithodd sawl testun Groeg i Ladin, ac ysgrifennodd y dychangerddi Horasaidd Satyrae, ymgomion, arwrgerdd yn arddull Fyrsil o'r enw Sforziad, sawl casgliad o lythyron a cherddi, a thraethawd ar bwnc athroniaeth foesol.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Academyddion y 15fed ganrif o'r Eidal
- Academyddion Prifysgol Bologna
- Academyddion Prifysgol Padova
- Beirdd y 15fed ganrif o'r Eidal
- Beirdd Lladin o'r Eidal
- Cyfieithwyr o'r Eidal
- Cyfieithwyr o'r Roeg i'r Lladin
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Padova
- Dyneiddwyr y Dadeni
- Genedigaethau 1398
- Llenorion Groeg y Dadeni
- Llenorion Lladin y Dadeni
- Marwolaethau 1481
- Pobl a aned ym Marche
- Pobl o Daleithiau'r Babaeth
- Pobl fu farw yn Fflorens
- Ysgolheigion y clasuron
- Ysgolheigion Groeg o'r Eidal
- Ysgolheigion Lladin o'r Eidal