Deltanet
Gwedd
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
|---|---|
| Awdur | Andros Millward |
| Cyhoeddwr | Gwasg Gomer |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 1999 |
| Argaeledd | mewn print |
| ISBN | 9781859027783 |
| Tudalennau | 82 |
| Genre | Ffuglen |
| Cyfres | Nofelau Nawr |
| Dynodwyr | |
Nofel Gymraeg i ddysgwyr yr iaith yw Deltanet, a ysgrifennwyd gan Andras Millward. Fe'i sgwennwyd fel bod y testun yn eithaf syml a chynhwysir geirfa ar waelod bob tudalen er mwyn rhoi cymorth i ddysgwyr. Gwasg Gomer a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1999. Yn 2017 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad byr
[golygu | golygu cod]Mae Deltanet, un o gwmnïau electronig mwyaf y byd, ar fin rhyddhau y DN Connect, dyfais a fydd yn trawsnewid y byd. Ond mae Ben Daniels, technegydd talentog yn DeltaNet, yn darganfod y gwir am DN Connect. Caiff Ben ei dynnu'n ddirybudd i'r byd tywyll sydd tu ôl i'r hysbysebion slic, lle mae pawb yn cuddio cyfrinach a lle mae gwybod y gwir yn arwain at berygl a marwolaeth.
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Mae Ben Daniels yn dechnegydd talentog sy'n darganfod y gwir am eu technoleg
- Mae Alan yn gydweithiwr i Ben ar brosiect DN Connect
- Mae Julie Perkins yn ohebydd ar gyfer papur newydd "y Standard"
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 2 Tachwedd 2017.