Neidio i'r cynnwys

Cyngor Tref Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Tref Aberystwyth
Gwybodaeth gyffredinol
MathCyngor Tref
Arweinyddiaeth
MaerEmlyn Jones
Dirprwy FaerDylan Lewis-Rowlands
Aelodau19
Grwpiau gwleidyddol     Plaid Cymru (12)
     Liberal Democrats (5)
     Plaid Lafur (2)
Etholiadau
Etholiad diwethaf5 Mai 2022
Etholiad nesaf6 Mai 2027
Man cyfarfod
Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, Aberystwyth, SY23 2HS.
Gwefan
www.aberystwyth.gov.uk

Cyngor Tref Aberystwyth yw'r cyngor cymuned sy'n gwasanaethu hen fwrdeistref, tref a chymuned Aberystwyth. Fe'i rhennir i bum ward ar gyfer etholiadau.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Mae'r Cyngor yn penodi cadeirydd sy'n gweithredu fel llywydd ac a adwaenir fel Maer Aberystwyth. Mae'r Cyngor bellach yn gorff staduol ond mae hefyd yn gadael ar Siarter Bwrdeisdref a roddwyd iddi gan y Edward I, brenin Lloegr ar 28 Rhagfyr 1277 ac sydd wedi ei chadarnhau gan frenhinoedd ers hynny,[1] sy'n golygu fod aelodau'r Cyngor hefyd yn ymddiriedoliaethwyr y Siarder.

Ers i'r Deddf Corfforaethu Bwrdeisdref 1835 ddod i rym, mae statws Aberystwyth fel bwrdeisdref wedi bod yn un seremoniol yn unig. Ers Deddf Llywodraeth Leol 1972 (a ddaeth i rym yn Ebrill 1974), gwaharddwyd cyngor y dref rhag cael ei hadnabod fel cyngor bwrdeisdref, er gall cynghorwyr tref, fel ymddiriedolaethwyr siarder, er enghraifft, dal gymryd rhan mewn gweithgaredd seremoniol (gwisgo ffurfwisg dinesig), ethol maeri (sy'n cael gwisgo cadwyn y swydd) a threfnu marchnadoedd (yn unol â'r Siarter Frenhinol wreiddiol). Y Maer yn 2024-25 yw Emlyn Jones.[2]

Wardiau Cyngor Aberystwyth

Ceir pump ward i Gyngor Tref Aberystwyth - Bronglais, Canol, Gogledd, Penparcau a Rheidol - sy'n ethol rhwng 3 a 5 cynghorydd yr un.

Gyda'r clod o'r gogledd, mae'n ffinio â chynghorau cymuned Tirymynach, Faenor, Llanbadarn Fawr a Llanfarian.

Cynrychiolaeth Cyfredol, Tachwedd 2025

[golygu | golygu cod]
Tachwedd 2025
Grŵp Gwleidyddol Aelodau
  Plaid Cymru
14
Democratiaid Rhyddfrydol 2
  Plaid Lafur
1
Annibynnol
1
sedd wag
1
 Cyfanswm
19

Maeri Diweddar Cyngor Tref Aberystwyth

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Enw Plaid Nodiadau
2025-26 Emlyn Jones Plaid Cymru
2024-25 Maldwyn Pryse Plaid Cymru
2023-24 Kerry Ferguson Plaid Cymru
2022-23 Talat Zafar Chaudhri Plaid Cymru
2021-22 Alun Williams Plaid Cymru
2020-21 Charlie Kingsbury Rhyddfrydwyr
2019-20 Mari Turner Plaid Cymru
2018-19 Talat Zafar Chaudhri Plaid Cymru Maer cyntaf Aberystwyth o gefndir Pacistani Punjabi
2017-18 Steve Davies Plaid Cymru
2016-17 Brendan Somers Plaid Cymru Collodd ei sedd 4 Mai 2017
2015-16 Endaf Edwards Plaid Cymru
2014-15 Brenda Haines Rhyddfrydwyr
2013-14 Wendy Morris-Twiddy Rhyddfrydwyr
2012-13 Dylan Lewis Annibynnol
2011-12 Richard Boudier Llafur Ymgeisydd Ceredigion i senedd San Steffan
2010-11 Samantha Hearne Rhyddfrydwyr
2009-10 Trevor Shaftoe Rhyddfrydwyr
2008-09 Susan Jones-Davies Plaid Cymru
2007-08 Lorrae Jones-Southgate Rhyddfrydwyr Ymddiswyddodd Mehefin 2008
2006-07 Michael Jones Plaid Cymru
2005-06 Aled Davies Plaid Cymru
2004-05 John T. James Plaid Cymru Annibynnol wedi Mawrth 2005
2003-04 John T. James Plaid Cymru
2002-03 Carol Kolczak Rhyddfrydwyr
2000-01 Jaci Taylor Plaid Cymru
1999-00 Siôn Jobbins Plaid Cymru
1998-99 Graham T. Parry Rhyddfrydwyr
1997-98 Elin Jones Plaid Cymru
1996-97 Carol Kolczak Rhyddfrydwyr
1995-96 Hywel Jones Annibynnol Diarddelwyd yn Chwefror 1996
1994-95 Bob Griffin Rhyddfrydwyr Gŵr Rose Simpson

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Hanes y Fwrdeistref" Archifwyd 2019-08-14 yn y Peiriant Wayback; Cyngor Tref Aberystwyth; adalwyd 14 Awst 2019
  2. "Maer Aberystwyth" Archifwyd 2019-08-14 yn y Peiriant Wayback; Cyngor Tref Aberystwyth; adalwyd 14 Awst 2019

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]