Cwndid
Math o gerdd ar fesurau digynghanedd yw cwndid (lluosog: 'cwndidau'). Daw i'r amlwg yn nhraddodiad llenyddol Gwent a Morgannwg yn ail hanner y 15g a bu'n boblogaidd hyd y 18g. Cerddi moesol neu grefyddol ydynt fel rheol ond ceir enghreifftiau o gwndidau mawl hefyd. Credir fod llawer o'r cwndidau cynnar yn enghreifftiau o waith y Glêr.[1] Mae'r gair 'cwndid' ei hun yn fenthyciad canoloesol o'r gair Saesneg condut, sy'n tarddu o'r gair Lladin Canol conductus, sef "math o motet (cerdd fer delynegol) a genid wrth i'r offeiriad fynd at yr allor".[2]
Y mesurau a welir yn amlaf yn y cwndidau yw'r cywydd deuair fyrion a'r awdl-gywydd, ond heb gynghanedd.[3] Carolau ar gyfer y gwyliau eglwysig yw nifer o'r cwndidau sydd ar glawr heddiw. Dywedir am y cwndidwr Siôn Tomas o blwyf Lidnerth:
El blwyf fydde gynt bob gwylie
Yn cael newydd gerdd lawenydd,
A'r gwylie hyn sy drwm gantyn
Na bai'u hathro 'n eu cynffwrdo.
Fe wnâ'i 'n ddifeth gerdd o bregeth
Yn sampol yn ni bob blwyddyn.[4]
Ceir ambell bennill sy'n profi fod rhai o'r cwndidwyr yn arfer canu cerddi serch hefyd, ac mae'n bosibl fod tystiolaeth y llawysgrifau yn gamarweinol mewn hyn o beth gan nad oedd cerddi o'r fath yn teilyngu lle mewn llawysgrif.[5]
Un o ganolfannau mawr y canu cwndid oedd Tir Iarll, Morgannwg. Mae'r cwndidwyr yn cynnwys Llywelyn Siôn, Edward Dafydd o Fargam, Edward Evan o Ben-y-fai a Lewis Hopkin.[6]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Hen Gwndidau, Carolau a Chywyddau, gol. L.J.H. James a T.C. Evans (Bangor, 1910). Detholiad o destunau golygiedig.
- G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1972), t.36
- ↑ Cwndid. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 20 Awst 2025.
- ↑ Morgan D. Jones, Termau Iaith a Llên (Gwasg Gomer, 1972), t.36
- ↑ G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, t.131
- ↑ G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg, t.137
- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.