Neidio i'r cynnwys

Croeso i'r Roial

Oddi ar Wicipedia
Croeso i'r Roial
Dyddiad cynharaf1977
AwdurTheatr Bara Caws
Cyhoeddwrheb ei chyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncDramâu Cymraeg
Genrerifiw
Dynodwyr

Cynhyrchiad cyntaf Theatr Bara Caws oedd Croeso i'r Roial a lwyfannwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977. "Rifiw ddychanol" oedd hi fel gwrthgyferbyniad i ddathliadau Jiwbilî Arian Elizabeth II.[1] "Roedd hi'n sioe hwyliog ac anarchaidd ond yn un hynod amserol hefyd - mor amserol efallai, fel na fyddai ond yn gweithio yn y cyfnod penodol hwnnw."[1]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Y Frenhines Elizabeth II [Mrs Windsor]
  • Gweithwyr y ffactri
  • Rheolwr y ffactri
  • William Caradog - Gofalwr y tŷ bach
  • Hywel Ffiaidd - pync
  • Blodwen Chwd - pync
  • Rhannau amrywiol eraill

"Cymeriadau na welwyd eu tebyg ar lwyfannau Cymraeg o'r blaen."[1]

Y sioe hon roddodd fodolaeth i'r cymeriad unigryw ac eiconig Doctor Hywel Ffiaidd.[1]

Disgrifiad byr

[golygu | golygu cod]

"Rifíw ddychanol oedd hi, yn portreadu criw o weithwyr yn ffatri ddychmygol Terodo wrth iddynt baratoi at ymweliad y Frenhines. Sioe wrth-frenhiniaeth a gwrth-jiwbili yn unol â gogwydd gwrth-sefydliadol creiddiol y cwmni. Yn ôl Iola Gregory, roedd yn fodd o danseilio syniadaeth asgell dde'r llywodraeth Brydeinig ar y pryd. Roedd elfen hefyd, yn ôl Sharon Morgan, o bortreadu'r taeogrwydd oedd yn rhemp bryd hynny, a dychan y sefydliad Prydeinig i'r pen."[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ynghanol y 1970au, crëwyd Theatr Antur o dan adain Cwmni Theatr Cymru, er mwyn i'r actorion ifanc oedd yn anhapus gyda'r arlwy oedd yn cael ei gyflwyno gan y prif gwmni, i arbrofi a chreu gwaith theatr mwy heriol. Creodd y cwmni sawl cynhyrchiad fel Byw yn y Wlad (1975/6), Fflora a Portread (1976) a Cymerwch, Bwytewch (1977). Roedd y sioeau yma wedi'i creu a'u cyfansoddi gan yr actorion a'r cerddorion a ganlyn, dros gyfnodau gwahanol : Cenfyn Evans, Iestyn Garlick, Sharon Morgan, Grey Evans, Valmai Jones, Gwyn Parry, Dyfan Roberts, Dyfed Thomas, Wyn Bowen Harries, Siân Morgan, Elinor Roberts, Cefin Roberts, Myrddin [Mei] Jones, Siôn Eirian, Gruffydd Jones a Iola Gregory.

Ym 1977, roedd yna ddathliadau mawr drwy'r wlad i gofnodi Jiwbilî Arian Elizabeth II. Penderfynodd rhai o'r actorion oedd wedi bod yn rhan o Theatr Antur, i drefnu "dathliad eu hunain".[1] "Heb geiniog o grant, na fawr ddim arall chwaith, bwriodd deg ati i greu sioe i'w pherfformio yn Steddfod Wrecsam 1977 - a hynny ar eu cost eu hunain".[1]

Ymunwyd â hwy gan Mari Gwilym, Stewart Jones ac yna Catrin Edwards, gyda Bethan Miles a Dafydd Pierce yn y band.

"£10 odd y byjet, yn ôl Valmai Jones, ac aeth Sharon Morgan ati i wario'r pres hwnnw ar wlân, a gwau sgarff yn lliwiau'r Iwnion Jac. Aeth y sgarff honno ddim yn wast, gan i Catrin Edwards gymryd ffansi ati hi a'i gwisgo with gyfeilio i bob perfformiad."[1]

Cafwyd gofod i berfformio yn Theatr Clwyd yn gyntaf, a hynny yn ystod wythnos yr Eisteddfod, cyn sicrhau nosweithiau ychwanegol yn Nghlwb Pêl-droed Wrecsam a Neuadd Gymdeithasol y Rhos.

"Ysgrifennu ar y cyd a chymryd tro bob un i gyfarwyddo oedd y drefn, a bachu ar y cyfle i gael pawb at ei gilydd rhwng ymarferion at sioeau eraill [...] Yn ôl Catrin Edwards, roedd rhyw deimlad 'munud olaf' i Croeso ir Roial, er nad oedd y gynulleidfa fawr callach o hynny erbyn y noson gyntaf [...] Nid y set, y propiau na'r gwisgoedd oedd yn bwysig ond y cynnwys a'r weithred o gynhyrchu'r sioe."[1]

Er mwyn dennu sylw i'r sioe, defnyddiwyd y "pyncs" oedd yn "poeri" i darfu ar draws "set gerddorol ar lwyfan y brifwyl [...] Tarfwyd ar noson yng nghwmni Trefor Selway a'r grŵp Shwn, a Iwyddodd i gymryd arnynt nad oedden nhw wedi disgwyl y fath beth. Canwyd y gân a phoerwyd gydag arddeliad."[1]

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y sioe am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977. Cyfarwyddwr cerdd : Catrin Edwards; band: Bethan Miles, Dafydd Pierce; cast:

Record Mae o'n brifo 'nghlust i Theatr Bara Caws 1981

"Roedd y cwmni wedi taro ar y nodyn iawn, a'r gynulleidfa Gymraeg yn amlwg yn dyheu am adloniant dychanol, amharchus - a Chymreig [...] Wedi iddynt berfformio i gynulleidfa o 60 y noson gyntaf honno yng Nghlwb Pêl-droed Wrecsam (pan oedd pawb yn hynod nerfus ac ar bigau'r drain, yn ôl Catrin), roedd gweld y 400 o bobol ddaeth i Ystafell Clwyd drannoeth i fwynhau'r peintiau a'r arlwy yn dipyn o sioc. Roedd yr awyrgylch yno'n drydanol hyd yn oed cyn i'r band."[1]

"Roedd dau begwn y theatr Gymraeg yn cael eu cynrychioli yn Steddfod Wrecsam - y ddrama Feiblaidd saff gan Gwmni Theatr Cymru a sioe hwyliog, egniol Bara Caws oedd yn gwbl amharchus o'r hen Mrs Windsor a'i Jiwbili."[1]

Mae'r gân Croeso i'r Roial o'r sioe wedi'i gynnwys ar y record Mae o'n brifo 'nghlust i gan Theatr Bara Caws a ryddhawyd ym 1981.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 Titus, Llŷr (2017). Theatr Bara Caws : Dathlu'r Deugain. Gwasg Carreg Gwalch.