Aston Martin DB11
| Aston Martin DB11 | |
|---|---|
| Brasolwg | |
| Gwneuthurwr | Aston Martin |
| Cynhyrchwyd | 2016–presennol |
| Adeiladwyd yn | Gaydon, Lloegr |
| Cynlluniwyd gan | Marek Reichman |
| Corff a siasi | |
| Dosbarth | Grand tourer (S) |
| Math o gorff | coupé 2-ddrws |
| Gosodiad | Injan-ffrynt, gyriant-ôl |
| Pweru a gyriant | |
| Injan | 5.2 L tyrbo-deuol injan V12 |
| Trosglwyddiad | otomatig 8-cyflymder |
| Maint | |
| Pellter rhwng echelau | 2,808 mm (111 mod) |
| Hyd | 4,739 mm (187 mod) |
| Lled | 2,060 mm (81 mod) |
| Uchder | 1,279 mm (50 mod) |
| Pwysau | 1,770 kg (3,902 lb) |
| Cyd-destun | |
| Rhagflaenydd | Aston Martin DB9 |
Car moethus o fath coupé a grand tourer ydy'r Aston Martin DB11[1] a lansiwyd ac a gynhyrchwyd gan Aston Martin yn 2016. Daeth i olau dydd yn Sioe Moduron Geneva ym Mawrth 2016 gan ddisodli'r Aston Martin DB9.[2] Dyma'r model cyntaf yng nghynlluniau newydd Aston Martin, sef Cynllun yr 2g a'r car cyntaf iddyn nhw ei gynhyrchu ers iddynt ddod i bartneriaeth gyda Daimler AG.
Mae gan y DB11 injan 5204 cc tyrbo-dwbwl V12 newydd sbon: yr Aston Martin tyrbo-dwbwl cyntaf i rowlio o'r ffatri a'i werthu'n fasnachol.[3] Mae'r injan yn cynhyrchu 600 bhp (447 kW; 608 PS) a 516 lb⋅ft (700 N⋅m). Lleolwyd y blwch-ger otomatig 8-cyflymder ZF yng nghefn y car. Gall y DB11 gyflymu o 0 i 100 km/h (62 mya) mewn 3.9 eiliad gan gyrraedd 322 km/h (200 mya). Yn 2017, rhoddwyd injan llai - un 4.0-litr tyrbod-dwbwl wedi'i wneud gan Mercedes-AMG yn opsiwn yn y DB11.[4] Golygai pwysau ysgafnach yr injan newydd hwn (115 kg (254 pwys yn ysgafnach na'r V12) cyfanswm pwysau'r car i lawr i 1,760 kg (3,880 pwys).
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Ffrynt
-
Cefn
-
Y tu mewn
-
Sioe Modur Genefa, 2016, lle gwelodd y DB11 olau dydd am y tro cyntaf
-
Sioe Modur Genefa, 2016
-
DB11 Volante yn 2018
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Aston Martin DB5 - a ymddangosodd yn un o ffilmiau James Bond (Goldfinger; 1964).
- Aston Martin Valkyrie - car hybrid
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Prince, Max (Hydref 2016). "Aston's Eleven". Road & Track 68 (3): 76-79.
- ↑ Ingram, Richard (2 Mawrth 2016). "New Aston Martin DB11: price, specs and video". Auto Express. Cyrchwyd 4 Mawrth 2016. Italic or bold markup not allowed in:
|work=(help) - ↑ Burt, Matt (2 Mawrth 2016). "Aston Martin DB11 video analysis: full tech details, prices and exclusive pics". Autocar. Cyrchwyd 4 Mawrth 2016.
- ↑ CAR's road test team (2 Mawrth 2016). "Aston Martin DB11: new 600bhp twin-turbo GT officially revealed". Car. Cyrchwyd 4 Mawrth 2016.