Sant ap Ceredig
Gwedd
| Sant ap Ceredig | |
|---|---|
| Ganwyd | 469 |
| Man preswyl | Teyrnas Ceredigion |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | brenin neu frenhines, arweinydd crefyddol |
| Tad | Ceredig ap Cunedda |
| Partner | Non |
| Plant | Dewi Sant |
Tad i Dewi Sant, yn ôl y traddodiad, ac un o dywysogion Ceredigion oedd Sant ap Ceredig neu Sandde. Mae'n bosib taw un o feibion iau Ceredig ap Cunedda ydoedd. Honna Rhygyfarch ap Sulien yn ei hanes Buchedd Dewi i Sant ymweld ag ardal Dyfed tua'r flwyddyn 500 ac yno treisio'r lleiain Non, gan roi iddi ei mab Dewi. Gwaith Rhygyfarch, a ysgrifennwyd dros 500 mlynedd wedi i Ddewi farw, yw'r unig ffynhonnell am dras nawddsant Cymru. Mae'r hanesydd Gerald Morgan yn amau'r stori yn ei lyfr Ar Drywydd Dewi Sant.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Ai Cardi oedd Dewi Sant?", Golwg360 (23 Chwefror 2016). Adalwyd ar 18 Medi 2016.