Rhiwallon ap Cynfyn
Gwedd
| Rhiwallon ap Cynfyn | |
|---|---|
| Ganwyd | 1025 |
| Bu farw | 1070 |
| Galwedigaeth | teyrn |
| Swydd | brenin |
| Tad | Cynfyn ap Gwerstan |
| Mam | Angharad ferch Meredydd |
| Plant | Gwladus ferch Rhiwallon ap Cynfyn, Jonet ferch Rhiwallon ap Cynfyn |
Roedd Rhiwallon ap Cynfyn (1025? - 1070) yn frenin Gwynedd a Powys ar y cyd gyda'r frawd Bleddyn.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Rhiwallon yn fab i Cynfyn ap Gwerstan, brenin Powys. Yn 1063 wedi i Gruffydd ap Llywelyn golli brwydr i Harold Godwinson a chael ei ladd gan ei wyr ei hun, derbyniodd Rhiwallon a Bleddyn deyrnas Gwynedd gan Harold.
Dair blynedd yn ddiweddarach lladdwyd Harold gan y Normaniaid ym Mrwydr Hastings, a chyn hir yr oeddynt ar ororau Cymru. Ymunodd Rhiwallon a Bleddyn a gwyr Mersia i ymosod ar y Normaniaid.
Yn 1070 ceisiodd dau fab Gruffydd ap Llywelyn gymeryd y deyrnas oddi ar y ddau frawd. Ym mrwydr Mechain y flwyddyn honno lladdwyd dau fab Gruffydd, ond lladdwyd Rhiwallon hefyd, gan adael Bleddyn i deyrnasu ei hun ar Wynedd a Phowys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]| O'i flaen : Gruffudd ap Llywelyn |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Bleddyn ap Cynfyn |
| Brenhinoedd Powys |