Jonathan Swift
| Jonathan Swift | |
|---|---|
| Ffugenw | Isaac Bickerstaff, Lemuel Gulliver, M. B. Drapier, Simon Wagstaff |
| Ganwyd | 30 Tachwedd 1667 Dulyn |
| Bu farw | 19 Hydref 1745 Dulyn |
| Man preswyl | Whitehaven |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Iwerddon |
| Addysg | Doethur mewn Diwinyddiaeth |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, nofelydd, dychanwr, athronydd, amddiffynnwr hawliau dynol, pamffledwr, offeiriad Anglicanaidd, ysgrifennwr, awdur ffuglen wyddonol, awdur ysgrifau, gohebydd gyda'i farn annibynnol, awdur plant, rhyddieithwr, person cyhoeddus, offeiriad |
| Adnabyddus am | Gulliver's Travels, A Modest Proposal, A Tale of a Tub |
| Arddull | dychan, Pritça, pamffled |
| Plaid Wleidyddol | Tori |
| Tad | Jonathan Swift |
| Mam | Abigail Erick |
| Partner | Esther Vanhomrigh |
| llofnod | |
Awdur o'r Iwerddon oedd Jonathan Swift (30 Tachwedd 1667 – 19 Hydref 1745), a aned yn Nulyn.
Er iddo gael ei eni yn Nulyn ac iddo rannu ei amser rhwng y ddinas honno a Llundain, roedd rhieni Swift yn Saeson o Swydd Efrog ac fe'i hawlir weithiau fel awdur gan y genedl honno.
Cafodd Swift ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Yn sgîl yr adwaith yn Iwerddon i Chwyldro 1688 aeth i Lundain lle daeth yn ysgrifennydd i Sir William Temple. Yn nghartref Temple cyfarfu Swift â "Stella" (Hester Johnson). Yno hefyd yr ysgrifennodd ei ddychan mwyaf gwreiddiol, A Tale of a Tub (1704).
Fe'i ordeiniwyd yn 1694 a rhannodd ei amser rhwng gofalu am ei ystad yn Iwerddon a mynychu siopa coffi a chylchoedd llenyddol Llundain. Yn 1713 cafodd ei apwyntio'n ddeon eglwys St Padrig, Dulyn. Yn 1726 cyhoeddodd ei lyfr enwocaf Gulliver's Travels, dychan ar wleidyddiaeth a syniadaeth ei ddydd yn rhith mordaith ffantasïol i wledydd pell neu ddychmygol. Bu farw yn 1745.
Llyfryddiaeth
- A Tale of a Tub (1704)
- Battle of the Books
- Journal to Stella (1710)
- Gulliver's Travels (1726)
- Egin pobl o Iwerddon
- Genedigaethau 1667
- Marwolaethau 1745
- Beirdd y 18fed ganrif o Iwerddon
- Beirdd Saesneg o Iwerddon
- Clerigwyr yr 17eg ganrif o Iwerddon
- Clerigwyr y 18fed ganrif o Iwerddon
- Cyn-fyfyrwyr Coleg y Drindod, Dulyn
- Llenorion dychanol o Iwerddon
- Nofelwyr y 18fed ganrif o Iwerddon
- Nofelwyr Saesneg o Iwerddon
- Offeiriaid Anglicanaidd o Iwerddon
- Pamffledwyr o Iwerddon
- Parodiwyr o Iwerddon
- Pobl a aned yn Nulyn
- Pobl fu farw yn Nulyn
- Ysgrifwyr a thraethodwyr y 18fed ganrif o Iwerddon
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o Iwerddon