Neidio i'r cynnwys

Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Caerdydd
ArwyddairDeffro! Mae'n Ddydd! Edit this on Wikidata
Mathdinas fawr, y ddinas fwyaf, dinas Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAfon Taf Edit this on Wikidata
LL-Q9309 (cym)-BOT-Twm Crys-C.P.D. Inter Caerdydd.wav Edit this on Wikidata
Poblogaeth383,536 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1081 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserAmser Safonol Greenwich Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Stuttgart, Vigevano, Bari, Naoned, Xiamen, Luhansk, Pernik, Hordaland Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Cymraeg, Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas a Sir Caerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd140.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr41 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Taf, Môr Hafren, Afon Elái Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaLlantrisant Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4817°N 3.1792°W Edit this on Wikidata
Cod postCF Edit this on Wikidata
Map

Prifddinas Cymru yw Caerdydd (("Cymorth – Sain" ynganiad ); Saesneg: Cardiff); hon yw dinas fwyaf Cymru a'r ddegfed fwyaf yn y Deyrnas Unedig. Daeth yn ddinas yn 1905 ac yn brifddinas Cymru yn 1955. Yma mae canolfan fasnachol fwyaf Cymru ac mae'r rhan fwyaf o sefydliadau cenedlaethol Cymru wedi eu lleoli yma hefyd.

Roedd Caerdydd yn dref fechan tan ddechrau'r 19eg ganrif. Tyfodd yn gyflym gyda dyfodiad y chwyldro diwydiannol ac yn enwedig pan gysylltwyd cymoedd De Cymru â rheilffyrdd fel y gellid allforio glo o borthladd Caerdydd. Yn 1851 roedd poblogaeth Caerdydd yn 20,000 ond erbyn 1911 roedd yn 182,000 ac erbyn 1991 roedd yn 269,000. Yn 1891 roedd Caerdydd yn allforio 708,000 o dunelli o lo: erbyn 1911 roedd yr allforion yn 10 miliwn tunnell.

Roedd porthladd Caerdydd yn cael ei adnabod fel "Tiger Bay", ac ar un adeg hon oedd un o borthladdoedd prysuraf y byd. Ar ôl cyfnod hir o ddirywiad, mae'r ardal wedi cael ei hadnewyddu fel Bae Caerdydd. Gobeithir y daw yn ardal boblogaidd ar gyfer y celfyddydau, bywyd nos ac adloniant. Daw'r twf aruthrol yma ar ôl adeiladu argae ar draws y bae, gan greu llyn enfawr. Roedd hyn yn ddadleuol iawn ar y pryd, ac yr oedd hefyd yn ofid fod y gymuned leol a oedd yn bodoli yn Tiger Bay yn cael ei chwalu. Ym Mae Caerdydd yr ymsefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yno mae Canolfan y Mileniwm hefyd, sydd yn gartref i Urdd Gobaith Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Stadiwm y Mileniwm.

Enw

Ystyr yr enw Caerdydd yw 'caer (ar lan) afon Taf'. Datblygodd y ffurf honno o'r ffurf gynharach Caerdyf. Mae'r elfen -dyf yn tarddu o ffurf dreigledig gynnar ar enw afon Taf. Mae'n dangos affeithiad i'r llafariad (taf > tyf) dan ddylanwad terfyniad sydd bellach wedi ei golli.[1]

Hanes

  • Yn ystod pregeth mewn gwasanaeth diolchgarwch yn y capel Wesleaidd ym mis Hydref 1883, rhuthrodd ddyn i fewn yn gweiddi the flood, the flood.. Windsor esplanade destroyed[2]

Yr iaith Gymraeg

Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 36,700 o bobl Caerdydd yn gallu siarad Cymraeg.

Economi

Fel prifddinas Cymru, economi Caerdydd yw'r brif fan am dwf economi Cymru. Mae'r ddinas wedi'i lleoli ar Goridor yr M4, ac mae ei heconomi a'i hardaloedd cyfagos yn cyfrif am bron 20% o CMC Cymru. Yn y 19g, allforio glo a chynhyrchu dur oedd seiliau economi Caerdydd, gyda phorth y brifddinas yn allforio mwy o lo na Llundain a Lerpwl. Heddiw, mae'r ddinas yn dibynnu ar sectorau adwerthu, gwasanaethau ariannol, y cyfryngau, a thwristiaeth, ac wedi bod yn lleoliad i adfywiad ers hwyr yr 20g yn enwedig yng nghanol dinas Caerdydd a Bae Caerdydd.

Cestyll

Chwaraeon

Mae clwb pêl-droed proffesiynol y ddinas, C.P.D. Dinas Caerdydd (Cardiff City), yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Ar hyn o bryd mae'r clwb yn chwarae yn y Bencampwriaeth. Enillodd y clwb Gwpan FA Lloegr yn 1927.

Trafnidiaeth

Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth cyhoeddus yn y ddinas yn cael ei redeg gan Fws Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys wyth rheilffordd, i Faesteg, Bro Morgannwg a Maes Awyr Caerdydd, Treherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr, Coryton, Rhymni, a Bae Caerdydd. Mae gan y ddinas 22 orsaf fel gorsafoedd Caerdydd Canolog a Chaerdydd Heol Y Frenhines, ill dwy yng nghanol y ddinas.

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ym Mro Morgannwg.

Pobl o Gaerdydd

Castell Caerdydd
Canolfan Mileniwm Cymru
Stadiwm y Mileniwm

Cymunedau Caerdydd

Eisteddfod Genedlaethol

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd ym 1883, 1899, 1938, 1960, 1978 a 2008. Am wybodaeth bellach gweler:

Gefeilldrefi

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales. University of Wales Press, 2007, ISBN 1-84323-901-9, t. 70.
  2. Arddangosfa Bae Caerdydd 2008

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wiciadur
Wiciadur
Chwiliwch am Gaerdydd
yn Wiciadur.


 
Dinasoedd yng Nghymru
Abertawe | Bangor | Caerdydd | Casnewydd | Llanelwy | Tyddewi