Sadwrn (planed)
| Symbol | ♄ | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Nodweddion orbitol | |||||||
| Pellter cymedrig i'r Haul | 9.539 US | ||||||
| Radiws cymedrig | 1,426,725,400km | ||||||
| Echreiddiad | 0.05415060 | ||||||
| Parhad orbitol | 378.1d | ||||||
| Buanedd cymedrig orbitol | 9.6724 km s−1 | ||||||
| Gogwydd orbitol | 2.48446° | ||||||
| Nifer o loerennau | 31 | ||||||
| Nodweddion materol | |||||||
| Diamedr cyhydeddol | 120,536 km | ||||||
| Arwynebedd | 4.32×1010km2 | ||||||
| Más | 5.688×1026 kg | ||||||
| Dwysedd cymedrig | 0.69 g cm−3 | ||||||
| Disgyrchiant ar yr arwyneb | 8.96 m s−2 | ||||||
| Parhad cylchdro | 10a 13m 59e ar yr arwyneb 10a 39m 25e mewnol | ||||||
| Gogwydd echel | 26.73° | ||||||
| Albedo | 0.47 | ||||||
| Buanedd dihangfa | 35.49 km s−1 | ||||||
| Tymheredd ar yr arwyneb: |
| ||||||
| Nodweddion atmosfferig | |||||||
| Gwasgedd atmosfferig | 140kPa | ||||||
| Hydrogen | >93% | ||||||
| Heliwm | >5% | ||||||
| Llosgnwy | 0.2% | ||||||
| Anwedd dŵr | 0.1% | ||||||
| Amonia | 0.01% | ||||||
| Ethan | 0.0005% | ||||||
| Ffosffin | 0.0001% | ||||||
Sadwrn yw ail blaned fwyaf Cysawd yr Haul. Mae'n blaned o nwy yn hytrach nag o graig. Sadwrn yw'r chweched phlaned pellaf i ffwrdd o'r Haul.
Enwyd y blaned ar ôl Sadwrn, duw amaeth ym mytholeg Rhufeinig. Roedd y duw Groegaidd cysylltiedig, Cronos, yn fab i Wranws a Gaia ac yn dad i Zews (Iau) a Poseidon (Neifion). Mae'r duw hwn hefyd yn gysylltiedig ag amser a henaint.
Gwybuwyd am Sadwrn ers amserau cyn-hanesyddol; Galileo oedd y cyntaf i edrych arno gyda thelesgop ym 1610. Roedd arsylwadau cynnar yn gymhleth gan y ffaith bod y Ddaear weithiau yn pasio trwy blân modrwyau Sadwrn wrth i Sadwrn droi ar ei gylchdro. Cafodd geometreg modrwyau Sadwrn eu hegluro gan Christian Huygens ym 1659.
Sadwrn oedd y blaned gyntaf i gael ei hymweld â hi gan Pioneer 11 ym 1979 ac wedyn gan Voyager 1 a Voyager 2. Cyrhaeddodd Cassini (prosiect ar y cyd gan NASA ac ESA) ar y cyntaf o Fehefin, 2004 a gwnaed lu o dargynfyddiadau ohono cyn ddiwedd y prosiect ar 15 Medi 2017[1].
Ymddengys Sadwrn fel petai ef wedi ei wastatu pe edrychir arno trwy delesgop; mae ei dryfesurau cyhydeddol a phegynol yn amrywio bron yn 10% (120,535 km o gymharu ag 108,728 km). Mae hynny oherwydd ei fod yn troi mor gyflym ac oherwydd ei gyflwr hylifol. Mae'r planedau nwy eraill hefyd yn wastad wrth eu pegynau ond nid cymaint â Sadwrn.
Mae Sadwrn yn llai ei gynhwysedd na'r planedau eraill; mae ei ddwyster penodol (0.7) yn llai na dwyster dŵr.

Fel Iau, mae Sadwrn tua 75% hydrogen a 25% heliwm gydag olion dŵr, methan, amonia a "chraig", yn debyg i gyfansoddiad Nifwl yr Haul cysefin a ffurfiodd Cysawd yr Haul.
Mae'r tu mewn i Sadwrn yn debyg i Iau, gyda chalon greigiog, haen o hydrogen metelaidd hylifol a haen hydrogen moleciwlaidd. Mae olion iâ hefyd yn bresennol.
Mae'r tu mewn i Sadwrn yn boeth (12000 K yn y canol) ac mae Sadwrn yn tywynnu mwy o ynni nag y mae ef yn derbyn oddi wrth yr Haul. Cynhyrchir yr ynni ychwanegol gan y mecanwaith Kelvin-Helmholtz (sef gwasgedd dwyster) fel ar Iau. Ond nid yw hynny'n esbonio disgleirdeb Sadwrn, sydd efallai'n cael ei greu gan heliwm sydd yn cael ei fwrw allan rywle y tu mewn i'r blaned.
Mae'r bandiau a welir ar Iau yn llai amlwg ar Sadwrn. Maen nhw hefyd yn fwy llydan wrth gyhydedd y blaned. Mae manylion y cymylau'n anweledig oddi ar y Ddaear, felly ni ellid astudio cylchrediad atmosfferig Sadwrn hyd nes i Voyager gyrraedd y blaned. Mae Sadwrn hefyd yn dangos stormydd hirgrwn mawr o hir oes a nodweddion eraill a welir ar Iau.
Gellir gweld dwy fodrwy amlwg (A a B) ac un sy'n llai amlwg (C) oddi wrth y Ddaear. Gelwir y bwlch rhwng A a B y gwahaniad Cassini. Gelwir y bwlch llai amlwg ar ran allanol y fodrwy A y gwahaniad Encke (er nad oedd Encke ei hun yn debyg o fod wedi ei weld). Dangosodd lluniau Voyager bedair modrwy ychwanegol. Mae modrwyau Sadwrn, yn wahanol i fodrwyau planedau eraill, yn ddisglair iawn (albedo 0.2 - 0.6).
Er eu bod yn ymddangos yn barhaol oddi wrth y Ddaear, mewn gwirionedd mae'r modrwyau wedi eu cyfansoddi o ronynnau bychain di-rif, bob un ohonynt mewn cylchdro annibynnol. Mae eu maint yn amrywio o gentimetr i sawl metr o hyd. Mae rhai gwrthrychau sydd yn gilomedr o hyd hefyd yn debyg.
Mae modrwyau Sadwrn yn hynod o denau: er bod eu tryfesur dros 250,000 km mae eu lled yn llai nag un cilomedr. Serch eu hymddangosiad trawiadol nid oes llawer o ddefnydd o fewn y modrwyau mewn gwirionedd: petai'r modrwyau'n cael eu gwagu i ffurfio un corff ni fyddai eu tryfesur ond 100 km.
Ymddengys y gronynnau eu bod wedi eu cyfansoddi'n bennaf o iâ dŵr, ond gellir hefyd gynnwys gronynnau creigiog wedi eu gorchuddio gan iâ.
Mae modrwy fwyaf allanol Sadwrn (F) yn strwythur gymhleth wedi ei chyfansoddi o sawl modrwy lai gyda "clyma" gweladwy. Credir bod y clymau'n glampiau defnydd neu loerennau bitw.
Mae yna soniaredd trai a llanw rhwng rhai o loerennau Sadwrn a'r modrwyau: mae rhai ohonynt, y lloerennau bugeiliol (fel Atlas, Promethëws a Phandora) yn bwysig mewn cadw'r modrwyau yn eu lle; ymddengys Mimas i fod yn gyfrifol am ddrudaniaeth defnydd o fewn y gwahaniad Cassini, sydd yn debyg i fylchau Kirkwood y gwregys asteroid.
Nid wyddys gwreiddiau modrwyau Sadwrn a'r cewri nwy eraill. Gallai'r modrwyau fod wedi bodoli ers i'r planedau gael eu ffurfio ond nid ydynt yn sefydlog ac maen nhw'n cael eu hadnewyddu gan brosesau sy'n mynd yn eu blaenau, efallai gan loerennau sydd wedi eu rhwygo. Gallai oedran y modrwyau cyfredol fod dim ond rhai cannoedd o filiynau o flynyddoedd.
Fel y cewri nwy eraill, mae gan Sadwrn faes magnedol sylweddol.
Cyfeiriadau
- ↑ "Cassini: The Grand Finale". Jet Propulsion Laboratory (NASA). 15 Medi 2017. Cyrchwyd 15 Medi 2017.
|
Planedau yng Nghysawd yr Haul |







