Neidio i'r cynnwys

Llwyd ap Iwan

Oddi ar Wicipedia

Tirfesurydd a fforiwr a gafodd ddylanwad mawr ar haned y Wladfa ym Mhatagonia oedd Llwyd ap Iwan, hefyd Lewis Jones (bu farw 29 Rhagfyr 1909.

Roedd Llwyd Ap Iwan yn fab i Michael D. Jones, un o arloeswyr y syniad o sefyflu'r Wladfa. Daeth i Batagonia yn 1886 fel peiriannydd ar Reilffordd Canol Chubut, oedd yn cael ei hadeiladu i gysylltu'r Wladfa a Puerto Madryn.

Yn 1893-94, 1894-95 a 1897, aeth ae deithiau i chwilio rhannau o'r wlad lle nad oedd unrhyw Ewropead wedi bod o'r blaen, gan ddefnyddio arweinwyr o blith y Tehuelche.

Tua dechrau'r 20fed ganrif symudodd Llwyd ap Iwan a'i delu i Gwm Hyfryd (yn ddiweddarach Colonia 16 de octubre). Roedd yn gyfrifol am gangen Rhyd y Pysgod (Arroyo Pescado) o'r Compañía Mercantil del Chubut, tua 30 km o Esquel. Ar 29 Rhagfyr 1909, daeth dau fandit Americanaidd o'r enw Wilson ac Evans, a saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw wrth iddynt geisio dwyn arian oddi yno.

Cred rhai awduron mai Butch Cassidy a'r Sundance Kid oedd y ddau yma, ond ymddengys fod y ddau yma eisoes wedi eu lladd ym Molifia cyn dyddiad y llofruddiaeth.