Neidio i'r cynnwys

Llwyd ap Iwan

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn yn ôl 14:27, 26 Ebrill 2015 gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) (Bywgraffiad: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB)

Tirfesurydd a fforiwr oedd Llwyd ap Iwan, a mab-yng-nghyfraith i Lewis Jones (bu farw 29 Rhagfyr 1909), a gafodd ddylanwad mawr ar hanes y Wladfa ym Mhatagonia.

Bywgraffiad

Roedd Llwyd Ap Iwan yn fab i Michael D. Jones, un o arloeswyr y syniad o sefydlu'r Wladfa. Daeth i Batagonia yn 1886 fel peiriannydd ar Reilffordd Canol Chubut, oedd yn cael ei hadeiladu i gysylltu'r Wladfa a Puerto Madryn.

Rhwng 1893–1894, rhwng 1894–1895 ac ym 1897, aeth ar deithiau i chwilio rhannau o'r wlad lle nad oedd unrhyw Ewropeaid wedi bod o'r blaen, gan ddefnyddio arweinwyr o blith y Tehuelche.

Tua dechrau'r 20fed ganrif symudodd Llwyd ap Iwan a'i deulu i Gwm Hyfryd (a enwyd yn ddiweddarach yn Colonia 16 de octubre). Roedd yn gyfrifol am gangen Rhyd y Pysgod (Arroyo Pescado) o'r Compañía Mercantil del Chubut, tua 30 km o Esquel. Ar 29 Rhagfyr 1909, saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw wrth i ddau fandit Americanaidd, Wilson ac Evans, geisio dwyn arian oddi yno.

Cred rhai awduron mai Butch Cassidy a'r Sundance Kid oedd y ddau yma, ond ymddengys fod y ddau yma eisoes wedi eu lladd ym Molifia cyn dyddiad y llofruddiaeth.