Neidio i'r cynnwys

Gwersyll ffoaduriaid

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:04, 7 Gorffennaf 2007 gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Gwersyll ffoaduriaid yn nwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo ar gyfer Rwandiaid yn dilyn Hil-laddiad Rwanda
Gwersyll yn Guinée ar gyfer ffoaduriaid o Sierra Leone

Gwersyll dros dro a adeiladir gan lywodraethau neu NGOau (megis y Groes Goch) i dderbyn ffoaduriaid yw gwersyll ffoaduriaid. Gall filoedd o bobl byw mewn gwersyll.

Oherwydd sefydlir gwersylloedd ffoaduriaid yn gyflym yn gyffredinol, ac wedi'u cynllunio i fodloni anghenion dynol sylfaenol am gyfnod byr o amser, gall argyfwng dyngarol digwydd o ganlyniad i rwystriad dychweliad ffoaduriaid i'w cartrefi (fel arfer oherwydd rhyfel cartref). Mae rhai gwersylloedd ffoaduriaid, megis Ein el-Helweh, wedi parháu mewn modd dros dro am ddegawdau, sy'n cael goblygiadau mawr am hawliau dynol.

Gall bobl aros yn y gwersylloedd yma, yn derbyn bwyd a chymorth meddygol argyfwng, nes ei bod hi'n ddiogel iddynt dychwelyd i'w cartrefi. Mewn rhai achosion, fel arfer ar ôl nifer o flynyddoedd, bydd gwledydd eraill yn penderfynu ni fydd hi erioed yn ddiogel i'r bobl yma dychwelyd, felly caffent eu hailgyfanheddu mewn "trydedd wledydd", i ffwrdd o'r ffiniau a groesawant.

Gall gyfleusterau gwersyll cynnwys y canlynol: