Neidio i'r cynnwys

Raspberry Pi

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:49, 21 Chwefror 2015 gan Multicherry (sgwrs | cyfraniadau)
"Raspberry Pi" Cyfrifiadur; Model-B Rev1
"Raspberry Pi 2"; Model-B (2015)

Cyfrifiadur bychan, maint cerdyn credyd, yw'r Raspberry Pi. Fe'i fwriedir yn bennaf ar gyfer ysgolion, gyda'r nod o hyrwyddo gwersi rhaglennu a gwyddor cyfrifiadur. [1]

Gall y cyfrifiadur redeg sawl system weithredu gwahanol, gan gynnwys Linux a RISC OS.[2] Yn wir ysbrydolwyd y cyfarfpar electronig hwn gan y "BBC Micro" a lansiwyd yn 1981.[3] Gallwyd cywasgu'r fersiwn ARM gwreiddiol i fewn i becyn bach cymaint a dongl USB y co-bach.[4]

Ar hyn o bryd, cynhyrchir y Raspberry Pi yn ffatri Sony ym Mhen-coed ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Morgannwg. [5]

Cyfeiriadau

  1. "A £15 computer to inspire young programmers". BBC News. 5 Mai 2011. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2013.
  2. "Introducing the New Out of Box Software (NOOBS)". Raspberry Pi Foundation. 3 Mehefin 2013. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2013.
  3. Quested, Tony (29 Chwefror 2012). "Raspberry blown at Cambridge software detractors". Business Weekly. Cyrchwyd 13 Mawrth 2012.
  4. "Tiny USB-Sized PC Offers 1080p HDMI Output". Cyrchwyd 1 Chwefror 2012.
  5. "Baked in Britain, the millionth Raspberry Pi". BBC News. 8 Hydref 2013. Cyrchwyd 15 Tachwedd 2013.