Twm o'r Nant
Bardd a dramodydd sy'n enwog am ei anterliwtiau oedd Thomas Edwards neu Twm o'r Nant (Ionawr, 1739 - dechrau Ebrill, 1810). Daeth yn ffigwr amlwg ym mywyd y werin ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif ac mae ei waith yn adleisio profiad a theimlad y dosbarth hwnnw yn wyneb anghyfiawnderau mawr yr oes. Yn ystod ei oes cafodd ei alw "y Cambrian Shakespeare" gan ei edmygwyr.
Gyrfa Twm
Ganwyd Twm ym Mhenparchell Isaf, ym mhlwyf Llannefydd, Sir Ddinbych yn 1739. O fewn dwy flynedd symudodd y teulu i'r Nant Uchaf yn Nantglyn (y "Nant" yn ei lysenw). Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond dysgodd elfennau darllen a sgwennu Cymraeg mewn ysgol rad a sefydlwyd yn Nantglyn. Dywed Twm yn ei hunangofiant ei fod wedi sgwennu ei anterliwt gyntaf yn 9 mlwydd oed. Gweithiodd fel gwas fferm, fel ei dad o'i flaen. Ond cyn hir roedd yn perfformio mewn anterliwtiau yn ffeiriau gogledd-ddwyrain Cymru. Priododd yn 24 oed ar 19 Chwefror 1763 a chafodd ferch yn Rhagfyr yr un flwyddyn. Bu fyw â'i wraig yn y gogledd hyd 1769 gan ennill bywoliaeth fel cariwr coed yn Ninbych.
Yna daeth tro mawr ar ei fywyd ac aeth Twm i lawr i'r De a Sir Drefaldwyn i ddianc rhag ei ddyledwyr a threuliodd gyfnod helbulus yn cadw tafarn ac yn gofalu am dollborth yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin.
Dychwelodd Twm i'r gogledd yn 1789 a bu aros yno hyd ddiwedd ei oes. Trodd fwyfwy at grefydd yn ei henaint a daeth yn gyfeillgar iawn â Thomas Charles o'r Bala. Mae'r anterliwtiau a gyfansoddodd yng nghyfnod olaf ei oes yn llawer llai masweddus ac yn adlewyrchu profiad Twm fel Methodus. Bu farw yn 1810.
Ei waith llenyddol
Cofir Twm yn bennaf am ei anterliwtiau. Math o ddrama boblogaidd a chwareid ar lwyfannau agored mewn ffeiriau a gwyliau mabsant oedd yr anterliwt. Ceir elfen gref o ffars a dychan ynddynt, ynghyd â beirniadaeth gymdeithasol a moesol. Yr anterliwtiau pwysicaf gan Twm o'r Nant yw:
- Tri Chydymaith Dyn (1762)
- Y Farddoneg Fabilonaidd (1768)
- Cyfoeth a Thlodi (1768)
- Pedair Colofn Gwladwriaeth (1786)
- Pleser a Gofid (1787)
- Tri Chryfion Byd (1789)
- Bannau y Byd (1808)
- Cybydd-dod ac Oferedd (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth, 1870)
Ond mi fu Twm yn fardd hynod o boblogaidd yn ogystal. Gwerthid ei gerddi gan faledwyr yn y ffeiriau a chyhoeddwyd y gyfrol Gardd o Gerddi yn 1790. Cymerodd Twm ran flaenllaw yn Eisteddfod Caerwys 1798, eisteddfod fawr a oedd yn ymgais i adgyfodi traddodiad yr hen eisteddfodau yng Nghaerwys yn yr 16eg ganrif. Cafodd Twm ei wneud yn Ddisgybl Penceirddiad. O'r un cyfnod tyfodd gelyniaeth rhwng Twm a Dafydd Ddu Eryri a barodd am weddill ei oes.
Ysgrifennodd Twm o'r Nant hunangofiant byr a bywiog sy'n llawn o wybodaeth am ei fywyd a'i feddylfryd. Cedwir yn ogystal nifer o lythyrau ganddo.
Llyfryddiaeth
Gwaith Twm o'r Nant
- Glyn M. Ashton (gol.), Anterliwtiau Twm o'r Nant: Pedair Colofn Gwladwriaeth a Cybydd-dod ac Oferedd (Caerdydd, 1964)
- eto, Hunangofiant a llythyau Twm o'r Nant (Caerdydd, 1962)
Astudiaethau
- Wyn Griffith, Twm o'r Nant (Caerdydd, 1953). Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi.
- Saunders Lewis, 'Twm o'r Nant', Meistri'r Canrifoedd (Caerdydd, 1973)
- Pennod Kate Roberts yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (1966)