Neidio i'r cynnwys

Allgo

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 01:31, 7 Rhagfyr 2014 gan Anatiomaros (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)

Sant Cymreig oedd Allgo neu Gallgo (Lladin: Allectus) (bl. 6ed ganrif). Fe'i cysylltir â phlwyf Llanallgo ger Moelfre ar Ynys Môn.[1]

Bywgraffiad

Roedd Allgo yn frawd i Sant Eugrad, sefydlydd Llaneugrad ym Môn, ac yn un o feibion Gildas fab Caw yn ôl yr achau traddodiadol a elwir yn Bonedd y Saint. Fel ei frawd Eugrad, dywedir iddo gael ei ddysgu gan Sant Illtud yn ei glas enwog yn Llanilltud Fawr ym Morgannwg a hefyd, yn ôl rhai ffynonellau, yn Llancarfan.[1]

Cysegrwyd eglwys plwyf Llanallgo yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn i Allgo. Mae'n gapel dan eglwys ei frawd yn Llaneugrad.[1] Ceir Ffynnon Allgo ger yr eglwys a gerllaw mae safle Capel y Ffynnon lle arferai'r plwyfolion weddïo i Allgo er cael iachad o anhwylderau; mae lefel uchel o fwyn swlffaidd yn y dŵr.[2]

Roedd gan Peithien, chwaer Allgo ac Eugrad yn ôl rhai ffynonellau, eglwys yn Nghapel Lligwy yn yr un ardal.[1]

Culhwch ac Olwen

Ceir cyfeiriad at 'Calcas (Kalcas) fab Caw' fel un o farchogion Arthur yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen a thybir mai llygriad o 'Gallgo' ydyw.[3]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 , T.D. Breverton The Book of Welsh Saints (Glyndwr Publishing, 2000).
  2. Francis Jones, The Holy Wells of Wales.
  3. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).