Logarithm

Logarithm rhif yw'r esbonydd ble mae'n rhaid i'r bâs (gwerth sefydlog arall) gael ei godi er mwyn creu'r rhif hwnnw. Er enghraifft, logarithm 1,000 i fôn 10 ydy 3, oherwydd mae 10 i bwer 3 yn 1,000: 1000 = 10 × 10 × 10 = 103. Yn fwy cyffredinol: i unrhyw ddau rif real b a x ble mae b yn bosydd a b ≠ 1,
Mae logarithm i fâs 10 (b = 10) yn cael ei alw'n logarithm cyffredin ac mae ganddo lawer o gymwysiadau mewn gwyddoniaeth a pheirianneg. Mae gan y logarithm naturiol y rhif anghymarebol e]] (≈ 2.718) fel bâs ac fe'i defnyddir yn aml mewn mathemateg pur, yn enwedig mewn calcalws. Mae logarithm deuol yn defnyddio bâs 2 (b = 2) ac fe'i defnyddir yn bur helaeth o fewn Cyfrifiadureg.
I John Napier mae'r diolch am gyflwyno logarithmau, a hynny yn y 17fed ganrif er mwyn esbonio ei gyfrifiadau. Cawsant eu mabwysiadu'n gyflym gan forwyr, gwyddonwyr, peirianwyr ac eraill i gyfrifo gyda llithriwl (sliderule) a thablau wedi'u hargraffu'n bwrpasol. Yn hytrach na nifer o gamau lluosi, roedd y dull newydd hwn yn haws gan y ffaith mai logarithm pob lluoswm ydy cyfanswm logarithmau'r ffactorau:
cyn belled a bod b, x ac y i gyd yn bositif a b ≠ 1.
Mae ein dull ni heddiw o ddefnyddio logarithmau'n ddyledus i Leonhard Euler, a'u cysylltodd i ffwythiannau esbonyddol yn y 18fed ganrif.