Neidio i'r cynnwys

Matharn

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn yn ôl 07:30, 9 Mawrth 2013 gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) (Cyfeiriadau: newidiadau man using AWB)
Eglwys Sant Tewdrig, Matharn

Pentref a chymuned yn Sir Fynwy yw Matharn (Saesneg: Mathern. Yr enw gwreiddiol oedd Merthyr Tewdrig). Saif tua pum milltir i'r de-orllewin o dref Cas-gwent, a ger y draffordd M48 (Cyfeirnod OS: ST522912). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 990.

Cysegrwyd eglwys y plwyf i Sant Tewdrig. Yn ôl yr hanes yn Llyfr Llandaf, roedd Tewdrig yn frenin Gwent a Glywysing. Tua'r flwyddyn 620 neu 630, ymladdodd yn erbyn y Sacsoniaid ger Tyndyrn, gyda'i fab Meurig ap Tewdrig. Gorchfygwyd y Sacsoniaid, ond clwyfwyd Tewdrig yn y frwydr, a dygwyd ef yma, lle bu farw wedi i'w glwyfau gael eu golchi yn y ffynnon. Dywedir i Meurig roi'r tiroedd o amgylch yn rhodd i Esgob Llandaf er coffa am ei dad. Plas Matharn oedd unig gartref Esgob Llandaf am ganrifoedd. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 15fed ganrif. Darganfuwyd esgyrn honedig Sant Tewdrig ger yr allor gan Francis Godwin, Esgob Llandaf 1601-1617. Roedd clwyf mawr yn y benglog.

Yn y gymuned yma mae pentref adfeiliedig Runston, sydd yn awr yng ngofal Cadw.

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato