Neidio i'r cynnwys

Sgriptiwr

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Sgriptiwr a ddiwygiwyd gan Adda'r Yw (sgwrs | cyfraniadau) am 03:06, 14 Mawrth 2025. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)

Mae sgriptwyr yn bobl sydd yn ysgrifennu sgriptiau sydd yna'n cael eu defnyddio er mwyn creu ffilmiau a rhaglenni teledu.

Mae'r mwyafrif o sgriptwyr yn dechrau eu gyrfa drwy ysgrifennu heb gael eu comisiynu i wneud hynny a heb gael eu talu. Pan werthir y sgript gelwir hyn yn "sgript-spec".

Mae nifer ohonynt yn gweithio yn doctora sgriptiau, gan geisio addasu a newid sgriptiau er mwyn ateb gofynion cyfarwyddwyr neu'r stiwdios; er enghraifft, gallai rheolwyr stiwdio gwyno fod bwriad cymeriad yn aneglur neu fod y ddeialog yn wan.

Gall doctora sgriptiau fod yn fusnes sy'n talu'n dda, yn enwedig ar gyfer yr ysgrifenwyr mwyaf enwog. Mae David Mamet a John Sayles, er enghraifft, yn ariannu'r ffilmiau maent yn cynhyrchu eu hunain drwy ysgrifenni a doctora sgriptiau pobl eraill.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.