Neidio i'r cynnwys

Syllabus Errorum

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 03:13, 6 Mai 2012 gan MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)

Casgliad o wrthrychau sy'n ymwneud â'r meddwl cyfoes a gondemniwyd gan y Pab Pïws IX a gyhoeddwyd ym 1864 yw'r Syllabus Errorum ('Rhestr Cyfeiliorniadau').

Mae'n rhestr sy'n adlewyrchu agenda adweithiol yr Eglwys Gatholig ar y pryd yn erbyn seciwlariaeth a moderniaeth. Mae'r syllabus yn condemnio pethau fel rhyddid barn ac annibyniaeth meddwl ar faterion crefyddol, a datgysylltu'r eglwys oddi wrth y wladwriaeth (gweler eglwys wladol). Gwrthodir hawl Cristnogion nad oeddent yn Gatholigion ond yn byw mewn gwledydd Catholig i ryddid addoliad ac mae'n drwm ei lach hefyd ar oddefgarwch crefyddol a rhyddfrydiaeth seciwlar o bob math.

Cyfeiriadau

  • Alan Richardson (gol.), A Dictionary of Christian Theology (Gwasg SCM, 1969)