Neidio i'r cynnwys

Syllabus Errorum

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Syllabus Errorum a ddiwygiwyd gan Bot Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) am 13:48, 16 Awst 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Syllabus Errorum
Enghraifft o:dogfen Edit this on Wikidata
Mathcatholic syllabus Edit this on Wikidata
AwdurPab Pïws IX Edit this on Wikidata
Rhan oQuanta cura Edit this on Wikidata
IaithLladin Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi8 Rhagfyr 1864 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiy Fatican Edit this on Wikidata
Prif bwncmoderniaeth, freedom of religion, separation of church and state Edit this on Wikidata

Casgliad o wrthrychau sy'n ymwneud â'r meddwl cyfoes a gondemniwyd gan y Pab Pïws IX a gyhoeddwyd ym 1864 yw'r Syllabus Errorum ('Rhestr Cyfeiliorniadau').

Mae'n rhestr sy'n adlewyrchu agenda adweithiol yr Eglwys Gatholig ar y pryd yn erbyn seciwlariaeth a moderniaeth. Mae'r syllabus yn condemnio pethau fel rhyddid barn ac annibyniaeth meddwl ar faterion crefyddol, a datgysylltu'r eglwys oddi wrth y wladwriaeth (gweler eglwys wladol). Gwrthodir hawl Cristnogion nad oeddent yn Gatholigion ond yn byw mewn gwledydd Catholig i ryddid addoliad ac mae'n drwm ei lach hefyd ar oddefgarwch crefyddol a rhyddfrydiaeth seciwlar o bob math.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  • Alan Richardson (gol.), A Dictionary of Christian Theology (Gwasg SCM, 1969)