Neidio i'r cynnwys

Codecs

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Codecs a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 21:12, 2 Mehefin 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Codecs
Mathllawysgrif, arteffact archaeolegol, arteffact Edit this on Wikidata
Yn cynnwysfinish Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Llawysgrif ar ffurf llyfr yw codecs (lluosog: codecsau; Lladin: codex). Yn yr Henfyd, ffurf arferol dogfen o unrhyw hyd sylweddol oedd y sgrôl, sef darn di-dor, hir o bapyrws neu femrwn a fyddai'n cael ei rolio i'w gadw'n ddiogel. Mae'n ymddangos bod y syniad o ysgrifennu ar ddalenni o bapyrws neu femrwn o'r un maint a'u rhwymo rhwng cloriau i mewn i un gyfrol wedi datblygu yn y 1g OC. Mae'r disgrifiad cyntaf o'r peth newydd hwn i'w gael yn ysgrifau bardd Rhufeinig Martial (tua 38–104 OC), a ganmolodd y codecs am ei hwylustod. Mae ymlediad y codecs yn gysylltiedig â chynnydd Cristnogaeth, a fabwysiadodd y fformat ar gyfer y Beibl yn gynnar.[1] Erbyn y 6g roedd y codecs wedi disodli'r sgrôl yn yr Ymerodraeth Rufeinig.

Er y gallai llyfrau printiedig modern gael eu galw'n godecsau, mae'r enw wedi'i gadw ar gyfer llyfrau llawysgrifau yr Henfyd a'r Oesoedd Canol yn unig.

Codecs Wiesbaden (c. 1180–85), cyfrol enfawr (30×45 cm; 15 kg) sy'n cynnwys gweithiau Hildegard von Bingen (Wiesbaden, Hessische Landesbibliothek, Hs. 2)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Colin H. Roberts a T. C. Skeat, The Birth of the Codex (Llundain: Oxford University Press, 1983), tt. 15–22