Neidio i'r cynnwys

Sgwrs Defnyddiwr:Paulpesda

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Ychwanegu adran
Oddi ar Wicipedia
Sylw diweddaraf: 27 diwrnod yn ôl gan Paulpesda ym mhwnc Teitlau italig

Croeso i'r Wicipedia.

Arddull

[golygu cod]
  • Ym mrawddeg cyntaf pob erthygl, dyali testun yr erthygl ymddangos mewn ysgrifen trwm (bold).
  • Ceisia osgoio defnyddio geiriau fel 'unigryw' i ddisgrifio rhywbeth, yn enwedig deuawd, gan mai mater o farn yw hynny.
  • Pan yn creu dolen at erthygl arall yn Wicipedia, does ond angen gwneud unwaith (h.y., os ti'n cyferio at Theatr Gwynedd sawl tro mewn erthygl, dim ond y tro cyntaf mae angen creu dolen). Mae'r erthygl yn mynd i edrych yn fler fel arall, yn enwedig os yw'r ddolen yn goch am nad yw'r erthygl yn bodoli eto.

Erthyglau'n bodoli'n barod

[golygu cod]

Mae dolen gyda ti at SAIN yn yr erthygl Hogiau Llandegai, ond mae erthygl amdanynt yn barod o'r enw Cwmni Recordiau Sain (ddim i'w gymysgu gyda'r arthygl am sain (sound)). I wneud dolen at y dudalen yma ymddangos fel hyn: Sain, dyma'r côd: [[Cwmni Recordiau Sain|Sain]]

Categoriau

[golygu cod]

Er mwyn ei wneud yn haws i eraill ddod o hyd i erthyglau tebyg am yr un pwnc, mae Categori:Categorïau yn bodoli. I roi erthygl mewn categori, ti'n cynnwys y côd ar waelod cynnwys tudalen (tip: erdycha am erthyglau ar hap i weld y math o gategorïau sy'n bodoli, a gwasga 'golygu' i weld y côd tu cefn iddynt). Er engrhiafft:

  • Mae Everton F.C. yn perthyn i gategori Categori:Timau pêl-droed Lloegr, ac mae [[:Categori:Timau pêl-droed Lloegr]] ar waelod eu tudalen yn y côd.
  • Mewn erthygl am berson mae nhw'n cael eu catagreiddio yn ôl eu galwedigaeth a pha wlad maen't ohon, ac er mwyn iddynt gael eu rhestru yn nhrefn y wyddor eu cyfenwau, ti'n defnyddio'r arddull canlynol yn y côd: [[Categori:Pêl-droedwyr Seisnig|Rooney, Wayne]] a [[Categori:Genedigaethau 1985|Rooney, Wayne]]


*Paid poeni am y categori os ti ddim yn siwr pa rai mae dy erthyglau'n perthyn iddynt, bydd golygwyr eraill yn debygol o ddod draw a'u gosod yn y rhai priodol ar dy ôl neu creu rhai newydd os oes rhaid, ond rho dro arni os ti'n gallu.

Os oes cwestiwn gyda ti, hola yn Y Caffi, neu ar fy nhudalen Sgwrs.--Ben Bore 15:05, 2 Gorffennaf 2008 (UTC)Ateb

Canllaw

[golygu cod]

Mae na gymorth wedi'i roi i ti uchod - pwyntiau hollbwysig i'w dilyn yn ofalus. Cyn mynd ymlaen i gyhoeddi rhagor, a wnei di gywiro rhai o'r erthyglau rwyt wedi'i creu'n barod, drwy fynd drwy'r cymorth / canllaw uchod. Can diolch! ee mae Categoriau'n holl bwysig ar erthygl, fel ag y mae'r gwybodlenni ayb. Gofyn os nad yw hyn yn glir. Gelli weld sut rydw i wedi mynd ati i gywiro dy erthyglau drwy bwyso'r botwm Gweld hanes y dudalen. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:34, 20 Awst 2024 (UTC)Ateb

Er enghraifft: fedri di wella'r erthygl Awê Bryncoch!, gan:
1. Droi'r teitl yn Italig
2. Troi enw'r erthygl, yn y frawddeg gyntaf, yn 'bold' (trwm).
3 Ychwanegu brawddeg gyntaf sy'n esbonio beth yw Awê Bryncoch! ee Addasiad llwyfan gan Mei Jones o'r gyfres gomedi C'mon Midffîld! yw Awê Bryncoch!. Dyma'r drefn arferol ar bob erthygl ar Wicip.
3. Ychwanegu categoriau
4. Ychwanegu un neu ddau o gyfeiriadau ychwanegol.
Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 13:43, 20 Awst 2024 (UTC)Ateb
Diolch! Mae'n braf medru cyfrannu. Paulpesda (sgwrs) 14:13, 20 Awst 2024 (UTC)Ateb
Jyst dweud, hfyd fod dy gyfraniadau'n wych, yn llenwi bwlch hynod o bwysig - byd y ddrama Gymreig. Melys moes mwy! Llywelyn2000 (sgwrs) 14:24, 20 Awst 2024 (UTC)Ateb
diolch. am ymweld â'r Llyfrgell yng Nghaerdydd fory i gwblhau'r manylion am y Fedal Ddrama.
un nodyn o gymorth plis, sut mae newid teitl y dudlaen i italeg? Nesh i greu Awê Bryncoch! o dudalen Cwmni Theatr Gwynedd, lle roedd y gwreiddiol mewn italeg, ond wrth greu tudalen newydd o'r linc, fe drodd yn normal! dwi'n golygu heb ddefnyddio côd. diolch Paulpesda (sgwrs) 14:30, 20 Awst 2024 (UTC)Ateb
Er mwyn italeiddio teitl yr erthygl bydd yn rhaid gludo tamed bach o god ar frig y dudalen, fel y gelli weld ar Awê Bryncoch!, sef {{Teitl italig}}. Does dim rhaid defnyddio'r fersiwn 'Golygu cod' i wneud hyn: gelli fynd i'r wedd 'Golygu', ac ar y chwith, brig (top), o dan enw'r erthygl fe weli betrual glas yn dweud 'Teitl italig'. Gelli gopio hwnnw a'i ludo fewn i dudalen arall. Pob lwc! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:48, 21 Awst 2024 (UTC)Ateb
Diolch.Ara' deg mae dal iâr! Paulpesda (sgwrs) 06:57, 21 Awst 2024 (UTC)Ateb

Leni

[golygu cod]

Bora da! Mae arnai ofn mod i creu tudalen am y ddrama Leni ddoe, heb wybod bod na dudalen eisioes am y ddrama a gyhoddwyd. Mae un i'w weld o dan [[Leni (drama lwyfan)] a'r llall Leni (drama) Oes posib dileu un neu gyfuno'r ddau? Hefyd, mae tudalen a grewyd o'r enw Leni (ffilm) sy'n gamarweiniol gan mai addasiad i deledu oedd y rhaglen nid ffilm. Recordiwyd y ddrama lwyfan yn stiwdio Barcud gan Teledu Tir Glas, ac ymhell o fod yn ffilm fel yr honna'r erthygl. diolch. —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Paulpesta (sgwrscyfraniadau) 09:14, 25 Awst 2024‎

Dim problem. Mi es i 'Rhagor' yna 'Symud' a'i symud i'r enw newydd, sef Leni (drama deledu).
Dw i di gwneud yr un peth ganwaith! Roedd llawer mwy o wybodaeth ar Leni (drama lwyfan), felly trois Leni (drama) yn dudalen ailgyfeirio. Diolch am dy gyfraniadau gwerthfawr1 Dysgwr sydyn!
ON Cofia arwyddo sylwadau fel yr uchod efo pedwar sgwigl (~) sy'n troi'n llofnod ac amser yn otomatig. Llywelyn2000 (sgwrs) 13:27, 25 Awst 2024 (UTC)Ateb
Diolch! Paulpesda (sgwrs) 14:07, 25 Awst 2024 (UTC)Ateb
~~~~ diolch. ddim yn siwr os dwi wedi gneud y 4 x ~ yn gywir!

Cloriau ar fin cael eu dileu

[golygu cod]

Isho cyngor eto. mae rhyw aflwydd yn codi ofn arni yn deud bod fy nghloria theatr ddim yn gywir, ac am gael eu dileu. dwi'm cweit yn siwr be i neud na'i ddeud. diolch Paulpesda (sgwrs) 16:59, 29 Awst 2024 (UTC)Ateb

Yn sydyn (ar frys braidd!) - mae cloriau albymau a llyfrau'n cael eu gwahardd o Comin, ond gelli eu huwchlwytho i'r Wicipedia Cymraeg ei hun. Ar y chwith, fe weli restr o ddolenni, ac yn eu plith Uwchlwytho ffeil. Gelli gopio a gludo'r testun a roddaist ar Comin, felly tydy hi ddim yn job fawr. Tydy llawer o wledydd ddim yn defnyddio trwydded 'Defnydd Teg', ond mi rydan ni! Rho hwnnw a mi arhosan nhw yma. Dyma esiampl. Gweidda os yw hyn yn aneglur! Llywelyn2000 (sgwrs) 16:00, 8 Medi 2024 (UTC)Ateb

Mynediad i gyfrol

[golygu cod]

Oes posib cael mynediad i'r gyfrol hon drwy wikipedia? https://www.cambridge.org/core/books/abs/cambridge-history-of-welsh-literature/theatre-film-and-television-in-wales-in-the-twentieth-century/5EE2673C635037C43D0114F6856DFBC5#access-block diolch ~~~~ Paulpesda (sgwrs) 13:06, 6 Medi 2024 (UTC)Ateb

Haia eto! Does neb yn mynd i weld y cwestiwn yma Paul, gan mai ar dy dudalen Sgwrs dy hun y mae. Y lle gorau i ofyn hyn ydy yn y Caffi. Dw i'n meddwl, mai AlwynapHuw ydy'r person gorau i'th ateb yn fama, gan ei fod wedi llwyddo i gael goriad drysau'r llyfrgelloedd yn y gorffennol. Mae Gemma Coleman (WMUK) newydd ei phenodi i Wikimedia UK, ac efallai y medr hithau dy ateb. Mae Wikimedia UK hefyd yn cynnig prynu rhai llyfrau - tria nhw! Cofion cynnes.... Robin. Llywelyn2000 (sgwrs) 17:29, 5 Awst 2025 (UTC)Ateb
Mae ar gael ar "Cambridge Core", trwy Wikipedia Library. Mae'n rhaid gwneud cais i fod yn aelod o'r llyfrgell. Mae'r aelodaeth yn gyfunedig i bobl sydd wedi gwneud nifer penodol o olygiadau. Mae manylion ar gael ar https://wikipedialibrary.wmflabs.org/ Mae'n werth cael aelodaeth gan ei fod yn rhoi mynediad rhad i nifer fawr o gasgliadau ymchwil sydd fel arfer yn costio ffortiwn i'w gweld. Alwyn AlwynapHuw (sgwrs) 20:23, 5 Awst 2025 (UTC)Ateb
Can diolch rhen ffrind! Llywelyn2000 (sgwrs) 08:50, 6 Awst 2025 (UTC)Ateb
diolch o galon Alwyn a @Llywelyn2000 wedi medru cael mynediad. oes na unrhyw Lyfrgell yn well na'i gilydd am ddeunydd yn Y Gymraeg? yn enwedig dramâu neu lyfrau? diolch Paulpesda (sgwrs) 09:27, 6 Awst 2025 (UTC)Ateb
Mae gan Borth Adnoddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol adnoddau llyfrgell a fideo ar https://www.porth.ac.uk/. Rwy'n ansicr os yw ar gael i bawb neu dim ond i aelodau'r coleg. Werth holi. 19:47, 7 Awst 2025 (UTC) AlwynapHuw (sgwrs) 19:47, 7 Awst 2025 (UTC)Ateb
Diolch am y cysylltiad @Llywelyn2000 a ymddiheuriadau @Paulpesdaam yr oediad - roedd fi ar ngwyliau blynyddol. Mae'r wybodaeth chi wedi derbyn gan @AlwynapHuw ac eraill yn gwych a dwi'n hapus i clywed mae mynediad 'da chi nawr. Yn y dyfodol, os mae adnoddau ddim ar gael trwy Lyfrgell Wicipedia neu'r awgrymiadau arall uchod, mae croeso mawr i chi (ac unrhyw un arall) cysylltu fi trwy e-bost (gemma.coleman@wikimedia.org.uk) neu drwy neges Wici i ddarganfod os mae grantiau ar gael. Diolch am eich cyfraniadau! Gemma Coleman (WMUK) (sgwrs) 11:34, 14 Awst 2025 (UTC)Ateb

Dinas Barhaus

[golygu cod]

Ydych chi'n bwriadu cwblhau'r erthygl hon? Os na, byddaf yn ei ddileu.Deb (sgwrs) 07:32, 13 Medi 2024 (UTC)Ateb

Ydw. Dwi yn bwriadu ei chwblhau. Paulpesda (sgwrs) 09:11, 13 Medi 2024 (UTC)Ateb

Tawelwch a rheoli wici

[golygu cod]

Haia Paul a diolch am dy waith diflino! Ti di holi dau beth yma ac acw. Tawelwch? Mynd a dod mae'r defnyddwyr a cheir prysurdeb y cynhaeaf geiriol cyn hirlwm y gaeaf hefyd. Neu ai fel arall mae hi, go iawn - mwy o brysurdeb yn y gaeaf, o flaen y tan! Yr unig bryder gen i ydy: ydy'r gymuned yn medru gweld a dileu rwts mi rwts. O ran rheoli wici: mae pawb yn gyfartal! Pawb = pawb sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, nid defnyddwyr sy'n defnyddio peiriant cyfieithu. Mae gan rai ohonom bwerau goruwchnaturiol, fodd bynnag, sef Gweinyddwyr y wici! Mae'r dudalen yma Wicipedia:Gweinyddwyr yn cynnwys enwau'r Gweinyddwyr. Y defnyddwyr sy'n rhoi'r pwerau blocio ayb i'r Gweinyddwyr yw'r ddau Fiwrocrat sydd gennym: Deb a finnau. Anaml, os o gwbwl, y ceir dau Fiwrocrat ar wicis bach fel y Gymraeg. Os yw'r gymuned yn dymuno ychwanegu at y Gweinyddwyr presennol, gallant nodi hynny yn y Caffi. Mae'n waith boring ar y cyfan, y tu ol i'r lleni, ond mae'r gwaith ty boring yn gongfaen bwysig! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:23, 5 Awst 2025 (UTC)Ateb

diolch @Llywelyn2000 Paulpesda (sgwrs) 17:30, 5 Awst 2025 (UTC)Ateb
Byddaf i'n eilio cynnig Robin am dy waith, Paul. Gwerthfawr dros ben. Craigysgafn (sgwrs) 18:23, 5 Awst 2025 (UTC)Ateb
diolch Paulpesda (sgwrs) 18:24, 5 Awst 2025 (UTC)Ateb
Craigysgafn - ceisio ateb Paul oeddwn i ynghylch pwy sy'n rheoli wici: tydw i ddim wedi cynnig Paul, er faswn i ddim yn erbyn hynny ychwaith! Wyt ti'n meddwl fod angen rhagor? Beth am godi hyn yn gyntaf yn y Caffi. Yn sicr, mae angen sodro'r bali botiau ma, neu mi eith hi'n rhemp arnom ni. Deb Mae Paul wedi gofyn pwy sy'n rheoli cy-wici. Paul asked who is managing cy-wici; my attempt here is an explanation of the roles of the Admins and Burocrats (a word I've never been able to learn how to spell!) Dw i wedyn wedi awgrymu i Craigysgafn drafod, yn y Caffi, a oes angen rhagor o Weinyddwyr (Admins) arnom ni. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:34, 6 Awst 2025 (UTC)Ateb
@Llywelyn2000: Mae'n ddrwg gen i, Robyn. Dim ond dweud "Clywch, clywch" am gyfraniad Paul oedd fy mwriad! Ond yr hyn rwyt ti'n dweud yn gywir. Craigysgafn (sgwrs) 08:30, 6 Awst 2025 (UTC)Ateb
diolch i chi'ch dau.@Llywelyn2000 ond fynnwn i ddim bod yn Weinyddwr/ydd ar hyn o bryd diolch. dwi'n dal i geisio dysgu sut i lunio tudalennau! dim ond holi o ran gwybodaeth, yn enwedig pan mae problemmau yn codi. e.e pan mae dwy dudalen i'w ganfod am yr un pwnc, a methu symud / cyfuno un dudalen i'r llall, gan fod honno eisoes yn bodoli. greda i ddim ein bod am gael cadwyn ar ôl cadwyn o ail-gyfeirio?! diolch Paulpesda (sgwrs) 09:20, 6 Awst 2025 (UTC)Ateb
Rwy'n cynuto'n llwyr efo'r cyfranwyr uchod am ddechrau trafodaethau yn Y Caffi. Rwy'n Gweinyddwr ers peth amser, rwy'n gwybod rhai pethau nad yw weinyddwyr eraill yn gwybod, mae gweinyddwyr eraill yn gwybod pethau nad oes gen i glem amdanynt! Ond yn bwysicach byth mae gan aelodau gweithgar, sy ddim yn weinyddwyr, gwybodaeth tu hwnt i ddirnad yr holl weinyddwyr! Dyna bwrpas y Caffi!
Mae dwy dudalen i'w ganfod am yr un pwnc yn un sy'n codi'n aml yma: Pa John Jones?
Y Stafell Ddirgel (nofel) Y Stafell Ddirgel (Drama) Y Stafell Ddirgel (Drama teledu) The Secret Room ac ati.
I gael ystod eang o ymatebion, y Caffi yw'r lle i ymofyn! AlwynapHuw (sgwrs) 01:18, 10 Awst 2025 (UTC)Ateb

Gwerthfawrogiad

[golygu cod]

Dim ond isio datgan fy ngwerthfawrogiad o'th waith diflino'n cyfoethogi Wici gyda thestun a chasgliad unigryw, prin iawn o ddelweddau. Bendigedig gyfaill. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:28, 7 Medi 2025 (UTC)Ateb

Diolch gyfaill. Gwerthfawrogi. Llafur cariad go iawn! A rwbath imi wneud. Mae cael lluniau Geoff Charles wedi bod yn fendith hefyd!. Paulpesda (sgwrs) 16:32, 7 Medi 2025 (UTC)Ateb

Teitlau italig

[golygu cod]

Helo Paul,

Does dim angen teitl italig ar ganeuon unigol, dim ond cyfanweithiau fel albymau, casgliadau, nofelau ac ati.

Nid yw'r cyfarwyddwyd penodol i weld yng nghanllaw Arddull Wicipedia ond rydyn ni'n dilyn yr un canllaw a fan hyn:

https://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Manual_of_Style/Text_formatting#When_not_to_use_italics Dafyddt (sgwrs) 12:44, 14 Medi 2025 (UTC)Ateb

diolch Dafydd. Paulpesda (sgwrs) 16:19, 14 Medi 2025 (UTC)Ateb

Defnydd Teg

[golygu cod]

Haia. 'Da ni'n cael defnyddio trwydded Defnydd Teg ar cy-wici gan fod syrfyrs Wicipedia a gweddill y teulu yn gyfreithiol yn UDA. Dyma'r drwydded ar en-wiki, sydd hefyd yn cael uwchlwytho lluniau Defnydd Teg neu hwn gan Sefydliad Wicimedia.

O ran cy-wici, mae'n rhaid defnyddio cydraniad (resolution) isel, nodi ar ba dudalen mae'r ddelwedd a nodi nad oes delwedd gyffelyb ar drwydded rhydd. Dyna'r Drindod Gysegredig. Ni chaniateir delweddau NAd ydyn nhw'n cael eu defnyddio, ac mae rhain yn aml yn cael eu dileu.

Diolch am ychwanegu'r holl ddelweddau hynod o bwysig a pherthnasol i ni Gymryyma. Ond plis ychwanega'r rhesymeg (Y Drindod bondigrbs!) fel a wnes ar Delwedd:Ac Eto Nid Myfi Drama Deledu 2.png. Diolch o galon. Llywelyn2000 (sgwrs) 11:57, 4 Hydref 2025 (UTC)Ateb

Diolch. Mi wnai lle medrai, ond mae llawer o'r screengrabs yn dod o hen gopïau fideo personol sydd gennyf, o raglenni a ddarlledwyd ar S4C neu fannau eraill, lle nad oes URL i'w gofnodi. A ddylwn nodi hynny? Diolch. Paulpesda (sgwrs) 15:27, 4 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Dylet! Mae ffynhonnell y lluniau'n holl bwysig e.e. 'Ciplun o'r gyfres Glas y Dorlan a ddarlledwyd yn y 1980au.' Gwybodaeth bwysig a diddorol i'r darllenydd!
Pwrpas y cydraniad isel yw i sicrhau mai gan berchennog y llun yn unig mae'r gwreiddiol, sydd o gydraniad uchel. Mae en-wici'n gwahardd fideo (symudol, nid ciplun); ond cyfres o luniau yw fideo! Faswn i'n croesawu rhoi tamed (fideo) o raglen ar drwydded Defnydd Teg os yw'r cydraniad (neu faint y llun) yn is / llai na'r gwreiddiol. Efallai y byddai'n syniad codi hyn yn y Caffi cyn gwneud, ond byddai'n torri tir newydd ar cy-wici ac en-wici. Rhywbeth i feddwl amdano! Ymlaen! Llywelyn2000 (sgwrs) 17:47, 5 Hydref 2025 (UTC)Ateb

Teitlau italig

[golygu cod]

Dw i'n teimlo'n flin am sôn am rywbeth mor ddibwys, ond byddai'n gymorth pe gallet ti gofio peidio â mewnosod llinell wag rhwng {{Teitl italig}} a {{Pethau}}. Mae'n gorfodi llinell wag i ymddangos ar ddechrau'r erthygl. (Efallai na fydd hyn mor amlwg mewn rhai sgriniau ag eraill.) Yn gyffredinol nid yw un llinell wag yn y cod yn gwneud unrhyw wahaniaeth, ond mae rhai o'r Nodiadau'n ymddwyn mewn ffordd idiosyncratig. Hwyl, Dafydd. Craigysgafn (sgwrs) 19:28, 5 Hydref 2025 (UTC)Ateb

Diolch. Fyddai bob amser yn cychwyn erthygl gyda nodyn teitl italic a nodyn pethau / person, ac yna’n cychwyn sgwennu. Mae’r linell wag rwyt ti’n gyfeirio ato yn ymddangos yn naturiol, ar fy sgrin creu i. Os ceisiaf ei ddileu, mae’r bocs gwybodaeth yn diflannu hefyd! Fyddai’n creu drwy dudalen weledol yn hytrach na drwy gôd. Wn i ddim sut i osgoi hyn, heblaw ei ddileu ar y dudalen côd? Paulpesda (sgwrs) 22:29, 5 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Iawn, paid â phoeni! Dal ati i wneud dy waith rhagorol, a byddaf i'n parhau gwneud unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol. Un o oes yr arth a'r blaidd ydwyf: dwi'n gwneud popeth ar y dudalen god, felly dim ond dyfalu beth sy'n digwydd pan fydd pobl eraill yn defnyddio taclau mwy modern. Craigysgafn (sgwrs) 09:49, 6 Hydref 2025 (UTC)Ateb
Ha! Diolch! Un am yr hen nodiant ydwi innau, yn hytrach na'r sol-ffa! Paulpesda (sgwrs) 10:31, 6 Hydref 2025 (UTC)Ateb