Neidio i'r cynnwys

Rhys ap Gruffudd (Llansadwrn)

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Rhys ap Gruffudd (Llansadwrn) a ddiwygiwyd gan Craigysgafn (sgwrs | cyfraniadau) am 16:06, 24 Tachwedd 2024. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn ddiweddaraf (gwahan) | Fersiwn ddiweddarach → (gwahan)
Rhys ap Gruffudd
Ganwyd13 g Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mai 1356, 10 Mai 1356 Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd Edit this on Wikidata
Mae hon yn erthygl am yr uchelwr o Lansadwrn. Am yr Arglwydd Rhys, gweler Rhys ap Gruffudd. Gweler hefyd Rhys ap Gruffudd (gwahaniaethu).

Syr Rhys ap Gruffudd o Lansadwrn (c. 1283-1356) oedd un o uchelwyr blaenaf de-orllewin Cymru ar ddiwedd y 13eg a dechrau'r 14g.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Mab i Ruffudd ap Hywel, cefnder y swyddog grymus Gruffudd Llwyd, oedd Syr Rhys, ac felly'n ddisgynnydd uniongyrchol yn y bedwaredd genhedlaeth i Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Yn y cyfnod 1310-1340 bu'n dal amryw o swyddi a theitlau yng ngwasanaeth brenin Lloegr yn y dde-orllewin, a chwaraeodd ran bwysig yn y gwaith o recriwtio Cymry lleol ar gyfer rhyfeloedd brenhinoedd Lloegr yn Ffrainc a llefydd eraill. Arweiniodd Syr Rhys filwyr o'r de-orllewin i ryfela yn yr Alban a Ffrainc. Roedd yn un o arweinwyr y Cymru ym Mrwydr Crécy yn 1346, ac efallai mai ar ôl y frwydr yma y'i gwnaed yn farchog. Rhoddwyd march du iddo gan y Tywysog Du yn Normandi yn 1349. I bob pwrpas, Syr Rhys oedd llywodraethwr de-orllewin Cymru yn hanner cyntaf y 14g. Cafodd ei apwyntio'n Ddirpwy Ustus Tywysogaeth De Cymru deirgwaith.[2]

Roedd ganddo diroedd bras yn ardal Dyffryn Teifi ac Ystrad Tywi ac ystad yn Llanrhystud. Mae'n bosibl mai ef a adeiladodd blasdy Abermarlais.[2]

Roedd yn noddwr i'r bardd a gramadegydd o glerigwr Einion Offeiriad (c.1300-1349); mae lle i gredu mai er anrhydedd i Rys y lluniodd Einion ei ramadeg barddol enwog. Canodd awdl iddo yn ogystal.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, Llundain, 1990), tud. 172.
  2. 2.0 2.1 R. R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1991)
  3. R. Geraint Gruffudd a Rhiannon Ifans (gol.), Gwaith Einion Offeiriad a Dafydd Ddu o Hiraddug (Aberystwyth, 1997).